Fydd dim rhaid i safleoedd gofal plant dalu ardrethi busnes yng Nghymru o hyn ymlaen.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y rhyddhad ardrethi annomestig parhaol ar gyfer safleoedd gofal plant yn golygu bod y sector yn arbed tua £3.4m y flwyddyn.

Dydy safleoedd fel meithrinfeydd dydd heb fod yn talu ardrethi busnes yng Nghymru ers 2019, ac mae’r rhyddhad wedi cael ei wneud yn barhaol bellach.

Bydd yr arbedion yn caniatáu i ddarparwyr gofal fuddsoddi mewn staff, creu swyddi newydd a lleihau codiadau ffioedd i rieni.

‘Baich’

Dywed rheolwr un feithrinfa fod y penderfyniad i ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes yn “gam pwysig”.

“Mae’n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn ystyried sefyllfa darparwyr gofal plant,” meddai Abeer Bafaqih, Rheolwr Gyfarwyddwr Daisy Day Nursery yn y Barri a Llanisien.

“Mae’n rhyddhad inni glywed na fydd angen i’r sector gario’r baich hwn o ystyried eu bod eisoes dan bwysau.

“Ar adeg pan rydyn ni’n gweld pwysau ar incwm teuluoedd, rydyn ni’n ddiolchgar bod y rhyddhad yn golygu y byddwn ni’n gallu parhau i gynnig strwythur ffioedd rhesymol iddyn nhw.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael cefnogaeth ac eiriolaeth barhaus Llywodraeth Cymru i’r sector Blynyddoedd Cynnar a’r teuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn.”

‘Cam cadarnhaol’

Mae Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru wedi bod yn lobïo am newid parhaol i’r trethi, ac yn dweud eu bod nhw wrth eu boddau â’r newid.

“Mae darparwyr gofal plant ar draws Cymru wedi wynebu costau cyflenwi cynyddol gan ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw aros yn gynaliadwy wrth ddarparu lleoedd blynyddoedd cynnar a ariennir,” meddai’r Prif Weithredwr Purnima Tanuku.

“Mae dileu baich ardrethi busnes yn barhaol yn gam cadarnhaol tuag at helpu meithrinfeydd a rhoi sicrwydd iddyn nhw.

“Wrth wneud y penderfyniad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth cefnogi’r sector blynyddoedd cynnar.”

‘Peth iawn i’w wneud’

Dywed Dawn Bowden, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Cymru, fod y lleoliadau’n darparu gwasanaeth hanfodol i Gymru, ond eu bod nhw’n gwybod bod y sector dan bwysau sylweddol ac angen cymorth parhaus arnyn nhw i dalu costau.

“Bydd gwneud rhyddhad ardrethi busnes yn barhaol ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig yn hwb enfawr i’r sector, gan roi sefydlogrwydd a helpu darparwyr i ail-fuddsoddi’r arbedion yn ôl yn eu busnes er mwyn parhau i ddarparu gofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel,” meddai.

“Dyma’r peth iawn i’w wneud ar gyfer ein plant, ein rhieni a’n darparwyr nawr, ac i’r dyfodol.”