Mae pryder nad yw’r Gymraeg mor weladwy ar blatfform cymdeithasol X bellach, ac y gallai hyn arwain at wthio’r iaith i’r cyrion yn y dyfodol.

Un sydd wedi lleisio’i bryder am y sefyllfa yw Cefin Roberts, Cyd-Gyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy.

Dydy cynnwys Cymraeg ar X (Twitter gynt) ddim yn ymddangos gymaint ag yr oedd yn arfer ei wneud, meddai.

Llai o Gymraeg

Gyda llawer yn gadael X yn ddiweddar yn sgil anfodlonrwydd â’r perchennog Elon Musk a’r newidiadau fu i’r platfform, mae Cefin Roberts wedi codi ei bryderon ynghylch lleihad yn y defnydd o’r Gymraeg ar y platfform.

Wrth siarad â golwg360, dywed ei fod yn teimlo bod gadael X yn gyfan gwbl yn arwain at wthio’r Gymraeg ymhellach oddi ar y platfform.

Dywed nad yw’n gweld negeseuon y rhai mae’n eu dilyn ar X yn aml iawn, er eu bod yn parhau i fod yn weithredol ar y platfform.

“Dwi’n gwrthod ei alw’n X,” meddai.

“Dw i ddim yn gwybod os oes yna system newydd wedi dod i rym, lle dydan ni ddim yn gallu gweld negeseuon ein gilydd mor aml…

“Mae rhai wedi trio fy nghyngori i i wasgu ‘Following‘ yn hytrach na ‘For You‘, ond mae o’n symud yn ôl i’r llall [‘For You’] o fy ngafael.

“Dw i’n teimlo ym mêr fy esgyrn fod yna lot o bobol wedi pwdu mwy [gydag X] yn ddiweddar oherwydd cysylltiad Elon Musk efo [Darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald] Trump, a’u bod nhw ddim yn licio beth maen nhw’n ei weld ac yn ei ddarllen.

“Dyna pryd wnes i ddiflasu mwyaf; mi o’n i’n meddwl, ‘Dydw i ddim eisiau clywed y syrcas yma yn mynd ymlaen drwy’r amser’.

“Ond dw i’n mwynhau’r drafodaeth oedd yn arfer bod.”

Diffyg presenoldeb Cymry Cymraeg ar X yn “drist”

Yn ôl Cefin Roberts, roedd “trafodaethau byw iawn” yn arfer digwydd yn aml ar X, ar sail cystadlaethau megis Canwr y Byd.

Dydi trafodaethau celfyddydol o’r fath ddim fel pe baen nhw’n digwydd bellach, meddai.

Dydi o ddim yn teimlo chwaith fod cynifer o bobol yn gweld ei gynnwys o ar y platfform, gyda’r rhai sy’n ymateb wedi lleihau.

Ychwanega fod nifer y Cymry Cymraeg hefyd yn lleihau ar X, a theimla fod llawer wedi “pwdu hefo’r Twitter newydd”.

“Mae’r ymateb wedi mynd yn llai, a dydw i ddim yn meddwl fod hynna oherwydd bod pobol wedi cael llond bol ar beth ydw i’n ei ddweud!” meddai.

“Dw i yn meddwl mai llai sy’n cael y cyfle i’w weld o, a llai o Gymry ar Twitter bellach.

“Ac mae hynny’n drist, i raddau, achos dydw i ddim yn ddyn gweplyfr [Facebook].

“E-byst a thrydar oedd fy lle i i gael fy marn allan yna weithiau, ond yn bennaf i roi sylw i ddigwyddiadau gwahanol sy’n mynd ymlaen.

“Yn ogystal â hysbysebu digwyddiadau fy hunan, mi oeddwn i wastad yn tynnu sylw at, er enghraifft, yr Ŵyl Gerdd Dant sy’n dod i fyny rŵan.

“Does yna neb i weld yn trafod yr Ŵyl Gerdd Dant ar Twitter y tro yma, sy’n beth diflas a dweud y gwir, achos dyna sut oedd pobol yn cadw mewn cysylltiad efo beth sy’n mynd ymlaen.”

Gweld eisiau’r trafodaethau

Pwysleisia Cefin Roberts nad yw chwaith yn gweld cynifer o bobol yn ymateb ar X i gynyrchiadau Cymraeg o gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Er bod hyn wedi ei arwain i dreulio llai o amser ar X, mae’n parhau i “drio gweld beth sydd arno”.

Mae’n cydnabod fod X, efallai, wedi “bwrw ei rawd” a bod pobol yn symud yn eu blaenau i bethau gwahanol, er iddo dreulio swm penodol o amser ar y “platfform diddorol iawn”.

“Dw i eisiau gwybod beth ydi barn rhywun am sioe buon nhw’n ei gweld, er enghraifft.

“A hwnnw sydd wedi diflasu rhywun fwyaf, a thynnu’r cynnwrf allan ohono i raddau.”

Wrth adael X yn gyfangwbl, teimla bod cynnwys Cymraeg “yn sicr” yn cael ei wthio i’r cyrion.

“Bore ’ma, mi wnes i sylweddoli fod un neu ddau yn dweud wrth bobol, ‘Os ydych chi yn gadael Twitter, yna peidiwch â chau eich cyfrif, achos mae pobol eisiau sbïo yn ôl’.

“Fuodd yna nunlle mwy prysur na Twitter pan oedd Cân i Gymru ymlaen.

“Mi oedd yna lot o hiwmor, lot o farn go lew yn cael ei dweud, pobol yn cwyno weithiau am y rhesymau iawn – ac weithiau yn gallu diflasu rhywun!”

‘Lle reit bigog hefyd’

Ond mae yna ochr arall i’r ddadl hefyd, yn ôl Cefin Roberts.

“Achos mae [X] yn gallu bod yn le reit bigog hefyd, wrth gwrs!” meddai wedyn.

“Ond dw i’n gweld hynny wedi lleihau, ar wahân i rŵan yn ystod yr etholiad Americanaidd.

“Roedd rhywun yn gweld pobol yn dweud pethau ffiaidd am ei gilydd arno fo, a dw i’n meddwl fod hynny yn y diwedd yn mynd i lawr i dy enaid di.

“Ti’n ei ddarllen o, ti’n ei weld o, a ti’n meddwl, ‘Wel, os oes yna atgasedd fel hyn yn y byd ‘ma, dydi o ddim yn le braf iawn allan yna’.

“Ond dw i’n optimist, a dw i’n meddwl fod y rheiny yn y lleiafrifoedd oedd yn licio cael eu clywed.”

Digon yn “dal i ddweud pethau diddorol yn y Gymraeg”

Er yr holl newidiadau sydd i’w gweld yn algorithmau unigolion ar y platfform, mae Cefin Roberts ymysg y rhai sy’n parhau i ddefnyddio X am y tro.

Creda fod presenoldeb y Gymraeg ar unrhyw blatfform yn bwysig, yn enwedig o ystyried bod siaradwyr newydd yr iaith yn aml yn troi tuag atyn nhw.

“Mae’n dda gallu cefnogi neu gynnig gair o gyngor,” meddai.

“Os wyt ti’n danfon neges yn dweud daliwch ati, ti’n teimlo fel dy fod di’n dal i helpu allan drwy gyfrwng dy iaith dy hun.

“Ar hyn o bryd, dydw i ddim yn mynd i adael [X], achos mae yna ddigon o bobol yn dal i ddweud pethau diddorol yn y Gymraeg.

“Ond diflasu mae rhywun fod hyn yn mynd yn llai, a dweud y gwir.”