Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw.
Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Helen Prosser, sydd wedi bod yn rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Roedd Helen hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni a’i mab, y newyddiadurwr Gwynfor Dafydd, enillodd y Goron. Cafodd Helen ei magu yn Nhonyrefail, ac mae’n dal i fyw yn ei thref enedigol gyda’i gŵr, Danny a’u merch, Fflur…
Mae fy atgof cyntaf o fwyd yn rhywbeth syml iawn – bara menyn fy mam-gu. Roedd hi’n dal y dorth o dan ei hysgwydd ac yn torri’r tafellau yn denau iawn, iawn. Mae fy rhai i erbyn hyn siŵr o fod tair neu bedair gwaith yn fwy trwchus. Hovis oedd y bara bob tro a’r menyn wedi’i daenu’n drwchus ac, o, mor flasus. Doedd dim oergell gyda mam-gu a chofiaf y menyn bob amser mewn powlen. Dw i’n dal i ddwlu ar fara menyn hyd at heddiw.
Roedden ni fel teulu’n bwyta’r un pethau bob dydd – cig a thatws neu gig a sglodion oedd hi. Ac roedd Mam yn pobi’n dda iawn, pan oedd yr Aga’n caniatáu. Felly, er ein bod ni’n cael cinio dydd Sul bron bob wythnos yn ein tŷ ni nawr, ychydig iawn o ddylanwad sydd wedi bod mewn gwirionedd. Mae Danny, y gŵr, a finnau’n gwneud ambell i bwdin ond dydyn ni ddim wir yn pobi. Ond mae ychydig mwy o amrywiaeth yn ein diet.
Efallai taw’r newid mwyaf rhwng fy arferion bwyta nawr a phan oeddwn i’n blentyn yw bwyta mas. Roedden ni fel teulu’n bwyta mas unwaith y flwyddyn, mewn caffi yng Nghaerdydd o’r enw Y Louis a hynny pan oedden ni’n mynd i weld Siôn Corn. Roedd yn ddigwyddiad mawr. Mae fy arferion wedi newid cymaint erbyn hyn – prin fod wythnos yn mynd heibio heb fy mod yn bwyta mas yn rhywle. Ein pryd bwyd diweddaraf oedd mewn bwyty bach yn Llundain i ddathlu pen-blwydd Gwynfor, y mab.
Dw i ddim yn un i droi at fwyd ar gyfer cysur yn aml ond siocled, wrth gwrs, a rhywbeth sy’n mynd yn ôl at fy atgof cyntaf, does dim byd gwell na darn o dost a menyn.
Fy mhryd o fwyd delfrydol fyddai caws Brie wedi’i ffrio i ddechrau, cinio Nadolig traddodiadol fel prif gwrs, a phwdin bara menyn Danny fel pwdin. Gwydraid bach o win gwyn gyda’r bwyd a cappuccino i orffen. Does dim ots lle byddwn i, dim ond bod cwmni teulu a ffrindiau gyda fi.
O ran y gaeaf, arogleuon biau hi: arogl selsig yn coginio ar y tân o gwmpas y goelcerth adeg Noson Tân Gwyllt a’r twrci ar ddydd Nadolig yn bendant yw arogl y Nadolig. Ond o ran yr haf, daw llu o atgofion melys yn ôl wrth gofio am y brechdanau llawn tywod ar y traeth ym Mhentywyn yn Sir Gaerfyrddin pan oeddwn i’n blentyn. Roedd Mam yn dod o Dalacharn ac ar fferm y teulu y treuliais i fy ngwyliau haf i gyd.
O ran coginio i bobl eraill, gan mai Danny neu Fflur sy’n gwneud y coginio i gyd, mae hwn yn un anodd. Byddai fy ffrindiau siŵr o fod yn dweud y byddwn i’n troi at ffa pob ar dost. Ond dw i’n gallu gwneud quiche eithaf da a phwdin taffi sticlyd neu tiramisu yw fy mhwdinau i.
Os bydda i’n coginio, rhaid i fi gael rysáit a’r ddau gogydd dw i’n troi atyn nhw: y ddau D – Delia Smith a Dudley!