Dach chi’n mwynhau chwilio am hen bethau? Efallai dod o hyd i fargen neu drysor newydd? Y penwythnos hwn, mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin yn cynnal ffair hen bethau.

Bydd amrywiaeth o stondinau yn gwerthu hen bethau mewn gwahanol leoliadau ar draws yr Ardd Fotaneg gan gynnwys y Tŷ Gwydr Mawr.

Mae caffi ar y safle hefyd os oes gynnoch chi syched ar ôl pori’r stondinau, a dach chi hefyd yn gallu dod â’ch ci i’r Ardd Fotaneg y penwythnos hwn.

Bydd y ffair yn cael ei chynnal heddiw a fory (dydd Sadwrn a dydd Sul, Tachwedd 9 a 10) rhwng 10yb a 4yp.

Pris mynediad yw £12 i oedolion, £6 i blant ac mae aelodau’r Ardd am ddim.