Fe ddechreuon nhw ymddangos ryw bythefnos yn ôl. Yr addurniadau lled-tacky hynny sy’n dod i’r fei yr adeg hon o’r flwyddyn. Nid geriach ein Calan Gaeaf Americanaidd na’r tinsels ’Dolig cyn-pryd. O na! Sôn ydw i am y petheuach mawr plastig sydd wedi’u clymu’n sownd i bolion lamp ac ambell gât neu ffens mewn sawl plwyf a dinas; rhai fel petaen nhw’n ymgiprys am fersiwn fwy di-chwaeth o ‘Cymru yn ei Blodau’.
Ydy, mae’n dymor y Pabi Coch.
Peidiwch â ’nghamddeall i. Dw i wedi bod yn ffermdy hanesyddol yr Ysgwrn yn heddwch Trawsfynydd, ac wedi teithio i fynwent Artillery Wood yng ngorllewin Fflandrys, lle sefais yn dawel ar lan bedd ‘6117 Private E.H. Evans’ (Hedd Wyn) o’r Ffiwsilwyr Cymreig a drengodd ar Orffennaf 31, 1917. Cefais groen gŵydd min nos wedyn wrth sefyll ysgwydd yn ysgwydd â Chanadiaid ac Awstraliaid wrth i’r ‘Last Post‘ atseinio dros Borth Menin. Mae gweld peth o enwau’r 54,000 o filwyr gafodd eu lladd yn Ypres, ond sydd heb feddi unigol, wedi’u harysgrifio y tu mewn i gromen y porth, yn gadael rhywun yn fud – heb sôn am yr erwau o gerrig beddi gwynion ar hyd a lled gogledd Ffrainc a Gwlad Belg. Ond doedd gen i ddim blodyn.
Yn anffodus, mae’r Cofio ar yr ynysoedd hyn wedi troi’n dipyn o sbloets jingoistaidd ers blynyddoedd. Mae’r pabi’n orfodol i selebs mawr a mân, ar raglenni amser brecwast, cyflwynwyr newyddion, i berfformwyr Strictly a’u bling coch a du sy’n fwy o ategyn ffasiwn na dim.
Ond fiw i chi feirniadu! Llwyddodd Jon Snow o Channel 4 News i godi cythraul o nyth cacwn ymhlith y Daily Mail-ers yn 2006, ar ôl disgrifio’r pwysau i wisgo’r bathodyn fel “poppy fascism”. Ac fe gollodd y troliaid ar-lein a’r tabloids eu pennau’n lân pan ymddangosodd yr actor o Iwerddon, Paul Mescal (Normal People, Gladiator 2) heb flodyn papur ar sioe siarad Graham Norton ar BBC One yn Nhachwedd 2022. Ond fel y pwysleisiodd Gwyddel arall ar y cyfryngau cymdeithasol:
“He is Irish… we don’t wear them or celebrate British atrocities on our Island.”
Ydyn, mae’r Brits yn boncyrs yr adeg hon o’r flwyddyn! Roedd cyfrif @giantpoppywatch ar Twitter ers talwm yn crisialu peth i’r dim, gan bostio fideos a lluniau o’r “Cofio” ar ei fwyaf honco. Ac wele luniau o dafarn yn Barnsley wedi addurno coeden Dolig wen â phabis cochion, i ffans Lloegr yn cario hongliad o fflag San Siôr â phabïau ar y gornel, yn Ewro 2024 eleni. Ond yr esiampl mwyaf hurt oedd Chris Tarrant a’r ‘Cookie Monster’ yn gwisgo bathodyn lapél pabi ar soffa The One Show yn 2016. Pyped glas blewog o’r gyfres chwedlonol i blant meithrin America ydi hwnnw gyda llaw. Uffern y Somme a Sesame Street. Pwy feddyliai?!
Nid bod Cymru’n gwbl ddieuog chwaith. Mae’r pabïau plastig yn chwyddo mewn maint bob blwyddyn, ac yn “harddu” pyst lampau Llandaf eleni, heb sôn am graffiti ar darmac y ddinas-o-fewn-dinas. Ces fy nallu gan ugeiniau ohonyn nhw wrth feicio trwy bentre’ Tongwynlais y Sul diwethaf. Wythnos ynghynt, gwelais faner enfawr “Lest we forget” mewn ffenestr tafarn ym Mhenrhyndeudraeth, ac mae un o strydoedd siopa Llandudno wedi’i neilltuo’n llwyr i’r ddau ryfel byd. Mae brawddeg agoriadol stori Alec Doyle yn y North Wales Pioneer yn ategu abswrdiaeth y cyfan:
A TANK made of wool and a ballgown made from 5,000 crocheted poppies are part of an extraordinary display in Llandudno to mark 80 years since D-Day.
Mi fydd y Torïaid lleol, a’r byseidiau o henoed Swydd Gaerwrangon ar wyliau ‘twrci a thinsels’ i’r dref lan môr, wrth eu boddau. A bydd Jac yr Undeb yn hedfan mewn sawl man yn y Fro Gymraeg.
Parhau wnaiff y traddodiad ac, os felly, beth am roi lle amlycach i’r pabi gwyn hefyd? Buasai wedi bod yn braf gweld criw Newyddion S4C, gan gynnwys Bethan Rhys Roberts ac Aled Huw o Washington DC yr wythnos hon, yn eu gwisgo law yn llaw â rhai coch unffurf y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig.
Nid syniad newydd gan griw o bobol ‘woke’ mohono chwaith, gan i Urdd Gydweithredol y Menywod ddechrau gwerthu’r pabi gwyn ’nôl yn 1933. Heddiw yng Nghymru, mae rhai gwyn â’r gair ‘HEDD’ yn y canol yn mynd i goffrau Cymdeithas y Cymod; cyfle i gofio am ddioddefwyr pob rhyfel, yn werin bobol a ffoaduriaid, nid dim ond rhai y buodd lluoedd Prydain yn gwasanaethau ynddyn nhw – ac ymrwymo i heddwch ac atebion di-drais i wrthdaro mawr ein byd heddiw.