Mae Gwasanaeth Cenedlaethol Sul y Cofio Cymru’n cael ei gynnal yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Tachwedd 10).

Mae cynrychiolwyr ar ran y Llynges Frenhinol, y Fyddin a’r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Fasnachol a’r Cadetiaid, yn ogystal â’r Prif Weinidog Eluned Morgan, a Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn bresennol ar gyfer y seremoni, sydd wedi’i threfnu gan Lywodraeth Cymru.

Yn rhan o’r seremoni, bydd carfanau o’r Lluoedd Arfog yn gorymdeithio heibio i Neuadd y Ddinas ac ar hyd Rhodfa’r Brenin Edward VII tuag at Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, erbyn 10.40yb.

Wrth y gofeb, byddan nhw’n ymuno â chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a sifiliaid, fydd wedi’u trefnu mewn colofnau er mwyn coffáu sefydliadau penodol.

Mae’r gwasanaeth yn cychwyn yn swyddogol am 10:59yb, gyda gair o’r ysgrythur gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd.

Bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau’r Cymry Brenhinol yn seinio’r ‘Caniad Olaf’ wedyn, a bydd taniad gwn gan Gatrawd 104 Magnelwyr Brenhinol Casnewydd yn nodi dechrau’r ddwy funud o dawelwch.

Ar ddiwedd y gwasanaeth, bydd yr holl gyfranogwyr yn ymgynnull ger Neuadd y Ddinas i weld Saliwt gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi.

Sul y Cofio “mor bwysig ag erioed”

“Mae’r gwasanaeth coffa yn parhau i fod mor bwysig ag erioed, wrth inni ymuno â’n gilydd i anrhydeddu’r dynion a menywod o Gymru aberthodd eu bywydau i sicrhau’r rhyddid rydyn ni’n ei fwynhau heddiw,” meddai Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru.

“Mae hefyd yn anrhydedd i sefyll ochr yn ochr ag aelodau’r Lluoedd Arfog o Gymru sy’n gwasanaethu ac yn gweinyddu dyletswyddau cadw heddwch ar draws y byd.

“I’r rhai gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro, fe’ch cofiwn am byth.”