Yn 1967, cafodd wal o elyniaeth ei chodi o gwmpas Israel. Roedd byddinoedd yr Aifft, Syria a gwlad yr Iorddonen yn dynn amdani’n cau. Casglodd Israel ei grym ynghyd, ei wasgu yn bêl, a thaflu’r bêl honno’n galed at y wal, gan lawn ddisgwyl i’r wal ei thaflu’n ôl atyn nhw yn galed, galed… Ond, er mawr syndod i Israel – a phawb arall – syrthiodd y wal.
Ers, ac oherwydd y Rhyfel Chwe Diwrnod, mae Israel wedi mynnu ymateb i bob wal newydd o elyniaeth, yn yr un ffordd yn union: casglu ei grym ynghyd, ei wasgu yn bêl, a thaflu’r bêl yn galed at y wal, gan lawn ddisgwyl i’r wal newydd honno, beth bynnag bo’i natur a’i phensaernïaeth, syrthio fel wal Gamel Abdel Nasser (1918-1970) yn 1967.
I gadarnhau, felly, ers dros hanner canrif, un ateb fu gan Israel i’w thrafferthion: grym arfau. Ers Hydref 7 y llynedd, gwelwyd penllanw hyn. Gan ddyfynnu o un o emynwyr mawr Bro Morgannwg (John Williams, 1728?-1806; CFf.347): Pa feddwl, pa madrodd, pa ddawn / Pa dafod all osod i ma’s faint y trychineb ddaeth i bobol Gaza. Daeth iddyn nhw uffern na welodd Dante (1265-1321) namyn cysgod o’i ffyrnigrwydd hi. Myn Israel mai grym, rhagor o rym, a rhagor eto fyth o rym yw’r ateb i letchwithdod Hamas; rhaid gwasgu Hamas yn ddarnau mân mewn dwrn!
Breuddwyd yw Hamas; breuddwyd sy’n codi o berfedd anobaith y Palestiniaid. Amhosibl yw diffodd breuddwyd trwy rym arfau. Nid oes modd gosod breuddwyd dan warchae; nid oes modd bomio na saethu breuddwyd! Mae’r UAV (unmanned aerial vehicle) mwyaf soffistigedig yn methu lleoli na thargedu breuddwyd. Mae’r freuddwyd hon yn drech na’r IDF (Israel Defence Forces). Gan gydnabod gwir erchylltra’r hyn sydd nawr yn digwydd, ni all ymdrechion dyfal dygn tuag at hil-laddiad, hyd yn oed, ladd y freuddwyd hon.
Yr unig ffordd i ddiffodd neu ladd breuddwyd yw cynnig a cheisio gwireddu breuddwyd arall, breuddwyd dyfnach, amgenach. Yr unig ffordd i Israel oresgyn Hamas yw cytuno i dalaith annibynnol yn y Lan Orllewinol a Llain Gaza, a’i phrifddinas yn Nwyrain Jerwsalem.
Yn ei lyfr Death as a Way of Life: Dispatches from Jerusalem (Bloomsbury; 2003), mae David Grossman (ganed 1954) yn adrodd hanes amdano, fel rhan o gwmni o Israeliaid a Phalestiniaid fu’n gweithio a chydweithio i geisio cymod rhwng eu pobol a’i gilydd yn y Dwyrain Canol; yn ymweld â Gogledd Iwerddon i drafod yno, gyda Phrotestaniaid a Chatholigion amlwg, y broses heddwch. Mae’r dyfyniad yn hir, ond gwerthfawr:
“At one point, an Israeli asked, How did you do it? How did you manage to extricate yourselves from hundreds of years of violence and hatred, and put yourselves on the track of dialogue? When did you understand that there was no other way?
David Ervine, a Protestant leader who had been caught in the past with a live bomb in his hands, looked at Martin McGuiness, a Catholic leader, a man who had been his bitter enemy. “There was a moment,” he said, “when I simply understood that this war cannot be won.” McGuiness nodded.
Mae mur o elyniaeth rhwng Israel a Phalesteina. Yn argraffedig arno mae’r gwirionedd: “… this war cannot be won”, mewn Hebraeg, Arabeg, a gwaed.