Doedd dim rhaid i bethau fod fel hyn. Cafodd Llywodraeth America bob cyfle a chyfiawnhad i wneud beth bynnag oedd ei angen i rwystro Donald Trump rhag sefyll am yr arlywyddiaeth.
Roedd wedi annog trais yn erbyn y llywodraeth bron i bedair blynedd yn ôl, ac mae’n amlwg ei fod yn gelwyddgi a thwyllwr o’r radd flaenaf sy’n fygythiad i sefydlogrwydd ei wlad ei hun a gweddill y byd.
Roedd hyn ynddo’i hun yn ddigon o reswm dros ddefnyddio unrhyw ddulliau a allai ei amddifadu o unrhyw hawl i sefyll eto.
Yn lle hynny, penderfynodd y Blaid Ddemocrataidd yn eu ffolineb a’u naïfrwydd mai’r ffordd orau o’i drechu oedd drwy’r blwch pleidleisio. Esgeulustod cwbl anghyfrifol ar eu rhan oedd gadael tasg mor dyngedfennol ar drugaredd anwadalwch etholwyr oedd yn amlwg wedi diflasu gydag arlywyddiaeth Joe Biden.
Mae’n wir y gallai haeriadau fel yr uchod ymddangos yn wrth-ddemocrataidd ar yr olwg gyntaf. Ond pan fo democratiaeth ei hun o dan fygythiad mewnol gan rywun fel Trump, nid cadw at y rheolau ydi’r peth iawn i’w wneud bob amser.
Wrth ddewis y llwybr oedd yn ymddangos hawsaf, a glynu’n ddeddfol at gyfreithiau a chyfansoddiad y wlad, mae’r Democratiaid wedi agor y drws i lywodraeth fydd yn cyflawni gweithredoedd llawer mwy annemocrataidd nag y bydden nhw fyth wedi’i wneud.
Gallwn fod yn sicr y bydd Trump ym mhoced ei noddwyr fel y trwyadl atgas Elon Musk a chyd-biliwnyddion eraill sy’n benderfynol o gamddefnyddio’u grym. Bydd busnesau mawr yn cael rhwydd hynt i dreisio’r amgylchedd fel y mynnon nhw, a gallwn ddisgwyl y llywodraeth fwyaf llwgr yn hanes America wrth i Trump lenwi’r prif swyddi ag aelodau ei deulu.
Dros yr wythnosau diwethaf, daeth yn amlwg hefyd ei fod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Vladimir Putin ers i’w dymor fel arlywydd ddod i ben. Bu’n cynnal trafodaethau answyddogol gydag arweinydd gwladwriaeth sydd mewn gwirionedd mewn sefyllfa o ryfel yn erbyn gwledydd NATO, y gynghrair filwrol mae America yn rhan mor allweddol ohoni. Pwy a ŵyr na fu’n rhannu cyfrinachau milwrol â Putin, ac ni allwn fod yn sicr chwaith nad yw ym mhoced hwnnw hefyd.
Dylai amheuon o’r fath fod wedi bod yn ddigon o reswm i’r wladwriaeth drin Trump fel gelyn. Yn lle hynny, Trump ei hun bellach sydd mewn sefyllfa i erlid ei wrthwynebwyr ar sail cyhuddiadau o fod yn elynion oddi mewn. Wrth beidio â gweithredu’n ddigon caled yn erbyn Trump, yr eironi yw bod llywodraeth Joe Biden wedi rhoi America mewn llawer mwy o berygl o ddychwelyd ddyddiau tywyll McCarthy a J Edgar Hoover yr 1950au.
Ymgreinio diangen ac anonest
Nid yw’n annisgwyl gweld arch-gynffonnwr Trump ym Mhrydain, Nigel Farage, fel ceiliog ar ben tomen yr wythnos yma. Na’r sefydliad Seisnig yn mynd ati’n unfrydol i ymgreinio iddo ar bob cyfle.
Diddorol er hynny yw anghysondeb eu hagweddau. Pryd bynnag mae sôn am drafodaethau gyda gwledydd eraill Ewrop, mae cenedlaetholwyr Seisnig yn uchel eu cloch yn honni’n drahaus eu bod “nhw angen ni yn llawer mwy nag ydyn ni eu hangen nhw”. Ond pan ddaw’n fater o ymdrin â Llywodraeth America, maen nhw’n newid eu cân yn llwyr. Mae bod yn gŵn bach i Trump yn rhywbeth maen nhw’n ymhyfrydu ynddo.
Penllanw’r gwiriondeb oedd y Torïaid yn galw am ymddiheuriad gan yr Ysgrifennydd Tramor David Lammy am ddweud y cyfiawn wirionedd am Trump rai blynyddoedd yn ôl (pryd y’i disgrifiodd yn gwbl gywir fel “woman-hating neo-nazi-sympathiser sociopath” a “bygythiad gwirioneddol i’r drefn ryngwladol”).
Mwy truenus fyth oedd gweld gwleidyddion Llafur, yn lle dal eu tir, yn ymuno yn yr un gystadleuaeth ymgreinio. Roedd Keir Starmer yn teimlo’r angen i longyfarch Trump “yn wresog” a mynegi ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio. Roedd hyd yn oed prif weinidogion Cymru a’r Alban yn dilyn yr un trywydd – yn gwbl ddi-alw amdano. Pan ddaeth Vaughan Gething yn Brif Weinidog Cymru, roedd Eluned Morgan ymhlith y rhai uchaf eu cloch yn llawenhau o weld dyn du yn dringo i’r brig. Oni fyddai wedi bod yn llawer mwy diffuant ar ei rhan yr wythnos yma i fynegi siom o weld pobol America yn gwrthod cyfle i ethol dynes hil-gymysg yn arlywydd? Gallwn fod yn sicr mai dyna mae ein Prif Weinidog yn ei deimlo go-iawn.
Er clod iddyn nhw, mae arweinwyr Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud fod y canlyniadau yn gam yn ôl i hawliau menywod a sefydlogrwydd byd-eang.
Roedd Rhun ap Iorwerth yn llygad ei le hefyd i dynnu sylw at yr angen i gryfhau cysylltiadau â’n cymdogion yn Ewrop. Mae’r trychineb gwleidyddol yn America yn fwy fyth o reswm dros ailddechrau edliw ffolineb pob gwleidydd a ymgyrchodd dros Brexit.
Rhybudd am beryglon
Cafodd pwynt pwysig ei godi gan ei ragflaenydd Leanne Wood hefyd, wrth rybuddio fod buddugoliaeth Trump yn rhybudd i Lywodraeth Lafur Keir Starmer rhag esgeuluso pobol ddosbarth gweithiol.
Yn sicr, mae sail i’w hofnau. Wrth ddod i Gasnewydd i siarad ddydd Gwener (Tachwedd 8), mae’n amlwg fod Nigel Farage yn gweld Cymru a’i holl ardaloedd ôl-ddiwydiannol yn agored i gael eu swyno gan yr un math o wleidyddiaeth atebion simplistig ag y mae Trump yn ei gynnig yn America.
Mae digon o dystiolaeth hefyd fod y math o wleidyddiaeth a oedd yn cael ei gweithredu y naill ochr a’r llall i Fôr Iwerydd gan arweinwyr fel Bill Clinton, Tony Blair a Barack Obama wedi siomi llawer o gefnogwyr traddodiadol eu pleidiau.
Afrealistig, er hynny, yw priodoli apêl Trump a’i debyg yn gyfan gwbl i ddiffyg radicaliaeth llywodraethau Democratiaid a Llafur.
Mae’n fwyfwy amlwg mai rhyfel diwylliannol yn hytrach na gwrthdaro dosbarth ydi’r grym cryfaf o ddigon mewn gwleidyddiaeth erbyn hyn. Pobl gymharol gysurus eu byd, ond sydd â chydwybod cymdeithasol, sy’n arddel gwleidyddiaeth fwy goleuedig bellach, nid tlodion sy’n pleidleisio ar sail eu buddiannau.
Melltith cywirdeb gwleidyddol
Er bod pwynt Leanne Wood am fethiannau llywodraethau yn un dilys, mae angen cydnabod cyfraniad rhai o’i chyd-radicaliaid asgell chwith hefyd at dwf gwleidyddiaeth afiach Trump a’i debyg.
Does dim amheuaeth fod y math o gywirdeb gwleidyddol sy’n cael ei arddel gan y chwith yn America ac Ewrop wedi bod yn allweddol yn y methiant i daro’n ôl yn effeithiol.
I ddechrau, mae termau fel ‘ffasgwyr’ a ‘Natsïaid’ a ‘hiliaeth’ wedi cael eu gorddefnyddio gymaint dros y blynyddoedd nes eu bod wedi colli eu hergyd yn llwyr.
O ganlyniad, pan fo rhywun gwirioneddol beryglus fel Trump yn ymddangos, pryd mae cymariaethau â thwf Natsïaeth yn yr Almaen yn gwbl ddilys, does neb yn cymryd y bygythiad o ddifrif.
Yn yr un modd, mae hoffter obsesiynol y chwith o daflu cyhuddiadau o hiliaeth wedi peri rhwystr gwirioneddol rhag unrhyw drafod ystyrlon ynghylch mewnfudo.
Siawns fod pawb ohonom sydd â rhywfaint o ddyngarwch yn perthyn inni yn ffieiddio at y ffordd mae Trump wedi mynd ati’n fwriadol i greu ofn a chasineb yn erbyn mewnfudwyr. Does dim amheuaeth bod angen herio’r honiadau di-sail a’r gor-ddweud eithafol sy’n digwydd.
Mae lle hefyd i addysgu pobol am y cyfraniad gwerthfawr y gallai mewnfudwyr ei gynnig i’n cymdeithas.
Ar y llaw arall, ffolineb llwyr ydi mynd i’r pegwn arall yn llwyr a chyfleu agwedd bod pob math o fewnfudo yn rhywbeth sy’n rhaid ei groesawu’n ddigwestiwn bob amser. Neu’n waeth, mygu unrhyw sylw negyddol am fewnfudo trwy godi ofn am gyhuddiadau o hiliaeth pe bai rhywun yn meiddio gwneud hynny. Er gwell neu er gwaeth, mae mewnfudo yn peri pryder gwirioneddol mewn llawer o bobl. Ac os ydi gwleidyddion mwy goleuedig yn gwrthod cydnabod pryder o’r fath, fydd gan y bobl hyn neb i droi atyn nhw ond y rheini sy’n ymhyfrydu mewn codi bwganod yn ei gylch.
Y ffordd arall mae radicaliaid gwleidyddol gywir yn helpu pobol fel Trump ydi trwy wastraffu eu hegni a’u hamser ar achosion niche ffasiynol sy’n boblogaidd ymysg carfannau lleiafrifol ond sy’n wrthun i drwch y boblogaeth. Yr amlycaf o’r achosion hyn ydi’r lol sy’n cael ei bregethu gan eithafwyr trawsrywiaeth, wrth hyrwyddo mesurau sy’n peri pryder gwirioneddol am ddiogelwch merched.
Mae eraill yn ymwneud â’r mathau gwyrdroedig o wrth-hiliaeth hunan-gyfiawn sy’n chwarae i ddwylo supremacists gwyn. Os am ddenu cefnogaeth pobol wyn lai breintiedig i achosion blaengar, go brin mai codi cywilydd am liw eu croen ydi’r ffordd orau o wneud hynny.
Os am daro’n ôl yn erbyn Trump a’i debyg, bydd yn rhaid i radicaliaid y chwith gefnu ar y math o chwarae plant sydd wedi mynd â gormod o’u bryd dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn rhaid i bawb gydweithio â’i gilydd a chytuno ar gamau fydd â gobaith realistig o lwyddo.
Does dim amheuaeth fod America ar fin cychwyn ar gyfnod tywyll yn ei hanes, ac y bydd hyn yn taflu cysgod ar bawb ohonom. Mae’r ‘difater materol’ wedi cael y llaw uchaf ar y rheini ohonom sy’n arddel gwerthoedd gwâr, ac mae’n anodd ar hyn o bryd gweld o le daw gwaredigaeth. Eto i gyd, camwedd o’r mwyaf ar ein rhan fyddai gadael inni’n hunain ddigalonni, gan mai ildio i’r cenfaint aflan o foch fyddai hynny.