Mae Leanne Wood, cyn-arweinydd Plaid Cymru, yn rhybuddio bod rhaid i Syr Keir Starmer a Llywodraeth Lafur San Steffan ddysgu gwersi o etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.
Daw ei sylwadau ar ôl i Donald Trump ddatgan mai fe sy’n fuddugol yn y ras am y Tŷ Gwyn.
Yn ôl y ffigurau oedd wedi’u cyhoeddi erbyn 9 o’r gloch fore heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 6), roedd Trump ar y blaen o 266 i 219, wrth iddo fe a Kamala Harris frwydro i gyrraedd 270.
Daeth cadarnhad ers hynny ei fod e wedi mynd tu hwnt i’r ffigwr angenrheidiol, ac felly mai fe fydd yr Arlywydd newydd.
Roedd Trump eisoes wedi annerch torf yn nhalaith Fflorida cyn cyrraedd 270, gan ddatgan mai fe oedd wedi ennill y ras, gan ychwanegu bod “America wedi rhoi mandad digynsail a phwerus i ni”.
Daeth hynny ar ôl i’r Gweriniaethwr ennill yn nhaleithiau Pennsylvania, Gogledd Carolina a Georgia, sy’n lleihau nifer y taleithiau allweddol mae modd i Kamala Harris eu hennill bellach.
Roedd Fox News, sy’n cefnogi’r Gweriniaethwyr, wedi ategu neges Trump, wrth iddyn nhw ddatgan cyn yr un gwasanaeth newyddion teledu arall ei fod e wedi ennill y ras.
Trump fydd yr ail arlywydd erioed i ennill dau dymor ar wahân wrth y llyw.
Mae disgwyl hefyd i’w blaid adennill rheolaeth dros y Senedd.
‘Dysgu gwersi’
“Dw i’n gobeithio bod Llywodraeth Lafur Starmer yn talu sylw i’r hyn sy’n digwydd yn yr Unol Daleithiau ac yn bwriadu gwella bywydau pobol dosbarth gweithiol yn sylweddol, ac yn gyflym,” meddai Leanne Wood ar X (Twitter gynt).
“Dw i’n ofni na fydd y gwersi’n cael eu dysgu, ac y bydd yr asgell dde ar gerdded yma yn yr un ffordd hefyd.”
Yn y cyfamser, mae’r newyddiadurwr Rob Osborne o ITV Cymru yn dweud bod “cymariaethau amlwg” rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru.
“Mae’r gefnogaeth i Donald Trump yn gryf mewn trefi bach a hen ardaloedd diwydiannol, a llefydd sy’n teimlo’u bod nhw wedi cael eu gadael ar ôl,” meddai.
“Byddai nifer o’i bleidleiswyr wedi cefnogi’r Democratiaid yn y gorffennol, ond yn teimlo erbyn hyn nad yw’r blaid bellach yn eu cynrychioli nhw.”
‘Cam yn ôl’
Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yn dweud bod y canlyniad yn “gam yn ôl” i wleidyddiaeth yn yr Unol Daleithiau.
“Mae’r digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau’n gam yn ôl ar gyfer hawliau menywod, sefydlogrwydd byd-eang a’r frwydr yn erbyn grymoedd cynyddol atchweliadol yn ein gwleidyddiaeth,” meddai.
“Mae’r angen i gryfhau cysylltiadau â’n cymdogion yn Ewrop yn fwy o fater brys rŵan nag erioed, felly hefyd pwysigrwydd sicrhau bod llywodraethau’n cadw at eu gair ac yn gwrando ar leisiau’r rhai mewn cymdeithas sydd wedi’u gwthio fwyaf i’r cyrion.”
‘Gwers i ni i gyd’
“Mae ethol Trump yn wers i ni i gyd,” meddai Beth Winter, cyn-Aelod Seneddol Cwm Cynon.
“Rhaid i ni uno i wrthwynebu ei hiliaeth a’i rethreg wreig-gasaol.
“Dw i’n galw ar bawb sy’n credu mewn democratiaeth, rheol y gyfraith, tegwch, cydraddoldeb, goddefgarwch, heddwch a chyfiawnder i gydweithio i gynnal y gwerthoedd hyn.”
‘Llongyfarchiadau’
“Llongyfarchiadau, ddarpar Arlywydd Donald Trump,” meddai Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru.
“Llongyfarchiadau ar gael eich ethol yn Arlywydd Unol Daleithiau America.
“Mae gan Gymru a’r Unol Daleithiau berthynas gref rydym yn ei gwerthfawrogi’n fawr.
“Edrychwn ymlaen at barhau â’r bartneriaeth honno er lles ein holl bobol.”