Bydd dau fwrdd iechyd yn destun craffu agosach gan Lywodraeth Cymru, o ganlyniad i bryderon difrifol am eu sefyllfa ariannol, yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
Mae Jeremy Miles wedi cadarnhau y bydd byrddau iechyd dysgu Bae Abertawe a Phowys yn cael eu codi i lefel pedwar o ran cyllid, strategaeth a chynllunio.
Dyma’r ail lefel uchaf ar raddfa ymyrraeth pum pwynt Llywodraeth Cymru – un lefel islaw mesurau arbennig.
“Mae angen i ni gynyddu lefel y gefnogaeth oherwydd y diffyg ariannol cynyddol mae’r ddau sefydliad yn adrodd amdanyn nhw,” meddai.
Dywed y bydd Bae Abertawe’n aros ar lefel pedwar o ran perfformiad, a lefel tri ar gyfer mamolaeth.
Mae e wedi crybwyll gwelliannau yng ngwasanaethau iechyd meddwl plant a phobol ifanc Cwm Taf Morgannwg, fydd yn symud i lefel tri ar ôl bodloni’r meini prawf er mwyn gostwng y lefel.
‘Ddim yn gosb’
Mewn datganiad ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 5), dywedodd Jeremy Miles fod Cwm Taf hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cyllid, ond y byddan nhw’n aros ar lefel tri er mwyn sicrhau bod modd cynnal y gwelliannau.
Mae’r bwrdd iechyd yn aros ar lefel pedwar am ofal brys, canser a gofal sydd wedi’i gynllunio.
Fe wnaeth e gadarnhau fod y saith prif fwrdd iechyd i gyd yn aros mewn rhyw fath o gamau ymyrraeth, heb fod newid i lefelau sefydliadau eraill y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Dywed Jeremy Miles fod Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig, gan ychwanegu bod adroddiad cynnydd wedi’i gyhoeddi a bod cytundeb ar y meini prawf mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd eu bodloni er mwyn gostwng eu lefelau.
“Nid ar chwarae bach mae’r penderfyniadau hyn wedi cael eu gwneud,” meddai.
“Dydy codi lefelau ddim yn ddull o gosbi, ond y ffordd orau o gefnogi’r sefydliadau hyn yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i wella ansawdd gwasanaethau a gofal mae pobol yn ei dderbyn yng Nghymru gan y gwasanaeth iechyd yn eu hardal leol ac, yn y pen draw, eu canlyniadau.”
‘Gemau gwleidyddol’
Mae gan Sam Rowlands, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, bryderon mawr am ostwng lefelau gwasanaethau iechyd meddwl Cwm Taf, gan rybuddio am amseroedd aros sydd wedi dyblu dros y blynyddoedd diwethaf.
Cododd Sam Rowlands, sy’n cynrychioli’r gogledd, bryderon am symud Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig cyn etholiad diwetha’r Senedd, cyn iddyn nhw ddychwelyd i fesurau arbennig unwaith eto’n ddiweddarach.
Gyda’r etholiad nesaf ar y gorwel yn 2026, fe alwodd am sicrwydd na fydd hyn yn digwydd eto.
“Mae’r argraff fod chwarae gyda chodi a gostwng lefelau’n digwydd er mwyn cyfleustra gwleidyddol… yn niweidio hyder yn y lle hwn… mae bywydau ac iechyd pobol ledled Cymru’n rhy ddifrifol o lawer i’r gemau gwleidyddol hyn gael eu chwarae.”
Cytunodd Mabon ap Gwynfor.
“Mae pryder dealladwy y byddwn ni’n wynebu ailadrodd anwybyddu cyngor arbenigol ar draul cyfrifiadau gwleidyddol tymor byr,” meddai.
‘Yn llwm o gyfarwydd’
“Mae tryloywder llawn ar y rhesymeg tu ôl i symud byrddau iechyd i fyny neu i lawr y llwybr yn hanfodol, felly,” meddai Mabon ap Gwynfor wedyn.
Fe wnaeth llefarydd iechyd Plaid Cymru ddisgrifio’r diweddariad ar drefniadau codi lefelau fel “sefyllfa sy’n llwm o gyfarwydd wrth normaleiddio safonau’n gostwng”.
Fe wnaeth Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd, godi pryderon am ragor o haenau i godi lefelau’n cael eu hychwanegu eleni, “gan roi’r argraff fod y gôl yn cael ei symud”.
Fe gyfeiriodd at y ffaith fod canllawiau Llywodraeth Cymru’n nodi na ddylid cyflwyno mesurau arbennig oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
“Ond o ystyried fod fy mwrdd iechyd lleol, Betsi Cadwaladr, wedi bod yn y sefyllfa hon am ddau draean o’i holl fodolaeth, mae’n amlwg nad oes dim byd eithriadol am berfformiad israddol gwasanaethau yng ngogledd Cymru.”