Wrth siarad â golwg360, mae’r Parchedig Ganon Aled Edwards wedi ymateb i fuddugoliaeth Donald Trump, fydd yn dod yn Arlywydd rhif 47 ar yr Unol Daleithiau, drwy ddweud bod ei fuddugoliaeth ddisgwyliedig yn “rhoi pwysau ar Wcráin” i ildio tir er mwyn dod â’r rhyfel â Rwsia i ben.
Wrth ysgrifennu’r erthygl hon, roedd gan y Gweriniaethwr Donald Trump 267 o bleidleisiau’r coleg etholiadol, gyda’i wrthwynebydd Kamala Harris ar 219, gyda saith talaith heb ddatgan eu canlyniadau o hyd.
Felly, mae hi bron yn amhosib bellach i’r Democrat Harris gyrraedd y 270 sydd eu hangen i ennill y ras arlywyddol.
‘Syndod i bawb’
O ran yr etholiad ei hun, dywed Aled Edwards fod “y pollsters wedi’i gael o’n anghywir eto”.
“A hefyd roedd ymwybyddiaeth y Rhyddfrydwyr efallai allan o’i le,” meddai.
Ychwanega fod y canlyniad yn “syndod i bawb”.
“Achos o’n i’n dilyn cyfrifon X y Rhyddfrydwyr amlwg, ac mi oedden nhw efo argraff gwbl wahanol i be’ oedd yn digwydd ar lawr gwlad,” meddai.
‘Rhaid i ni ailddysgu sut ydan ni’n deall dylanwad ar bobol’
Mae Aled Edwards wedi bod yn Washington D.C. ers wythnos, er mwyn dysgu am “frwydrau gwleidyddol” tebyg i’r un sydd wedi bod yn yr Unol Daleithiau ers i Donald Trump ddechrau ymgyrchu i fod yn Arlywydd yn 2015.
“Mae’n rhaid i ni ailddysgu sut ydan ni’n deall dylanwad ar bobol, oherwydd mae yna ddeddfau cryfion erbyn hyn yn dylanwadu ar bobol,” meddai.
“A bod hwn yn digwydd yn isel iawn yn ymwybyddiaeth pobol.
“Roeddwn i’n cael yr argraff fod yna ddylanwad mawr ar bobol ddu yn fan hyn.
“Roedd yna bwyslais i wyro pobol tuag at anniddigrwydd economaidd, er, fyswn i’n dweud os wyt ti’n edrych ar y peth yn wrthrychol, doedd record [yr Arlywydd Joe] Biden [ar yr economi] ddim mor ddrwg â hynny.”
Mae cyflogau cyfartalog yn yr Unol Daleithiau oddeutu $65,000 y flwyddyn, sydd yn sylweddol fwy na gwledydd Prydain, a’r rhan fwyaf o wledydd Ewrop hefyd.
Ychwanega fod yna gwestiwn hefyd am “sut wyt ti’n dal rhywun sydd ag agenda mor gryf â Donald Trump i gyfri”.
“Mae hynny’n amlwg efo materion anodd fel hawliau merched, materion rhyngwladol, newid hinsawdd, a hefyd hawliau dynol pobol fel newyddiadurwyr,” meddai.
Yn wir, un o’r pynciau llosg yn ystod yr ymgyrch oedd yr hawl i ferched gael erthyliad.
Er bod erthyliad wedi cael ei gyfreithloni yn sgil achos hanesyddol Roe v Wade, mae’r hawl wedi cael ei chrebachu dros y blynyddoedd, yn enwedig yn y Goruchaf Lys sydd bellach â gogwydd Weriniaethol gref.
Pryderon am ddyfodol Wcráin
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Aled Edwards yn amau na fydd Donald Trump yn medru cadw at ei addewid i dyfu’r economi, a gwneud “America’n wych eto”.
“Y busnes tariffau yma, mae hynny’n mynd i effeithio ar sawl un,” meddai.
“A be’ wneith gwledydd, wrth gwrs, ydi dial arnyn nhw.”
Mae Donald Trump wedi gwneud addewid i godi tariffiau gan ryw 300% ar geir trydan o Tsieina, er enghraifft, a hynny er budd ei gefnogwr Elon Musk, sy’n berchen ar y cwmni ceir trydan Tesla.
“Be’ mae o’n mynd i’w wneud ydi rhoi pwysau ar Wcráin i roi darnau o dir iddyn nhw [Rwsia], neu wneud hynny’n llwyr,” meddai.
Mae’r sefyllfa honno’n adlais o’r cyfnod pan ddaeth Neville Chamberlain, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, i gytundeb ag Adolf Hitler, Canghellor yr Almaen, ynghylch cydfeddiannu’r Sudetenland yng ngogledd Tsiecoslofacia yn 1939.
Ychwanega Aled Edwards fod pobol ryddfrydol wedi bod yn annog etholwyr i “gredu’r dyn yma efo be’ mae o’n ei ddweud”, yn hytrach na’i wfftio fel rhethreg yn unig.