Dyma gyfres newydd o eitemau sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr Golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Heather Davies, sy’n byw ger Castell Newydd Emlyn, sy’n dweud pam ei bod yn hoffi’r ardal rhwng Rhandirmwyn a Thregaron…

Mae Heather yn dod o Loegr yn wreiddiol. Roedd hi’n arfer gweithio fel Seicotherapydd gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghaerfyrddin. Mae hi bellach wedi ymddeol ac yn byw mewn pentre’ bach, bedair milltir o Gastell Newydd Emlyn.

Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd gyda Dysgu Cymraeg Aberystwyth, a Choleg Gwent. Ar hyn o bryd mae hi’n cymryd Lefel Uwch 1.


Fy hoff le yng Nghymru ydy’r ardal rhwng Rhandirmwyn a Thregaron, yn enwedig Capel Soar-y-Mynydd a’r cyffiniau.

Dw i’n hoffi’r ardal achos bod harddwch y dirwedd yn bwydo fy enaid. Mae’r mynyddoedd yn siarad â mi am dragwyddoldeb. Mae’r dirwedd yn wyllt ac yn arw. Mae heddwch i’w gael yma. Mae Capel Soar-y-Mynydd yn lle sanctaidd, lle cysegredig hardd i wrando ar y dwyfol.

Bu farw fy ngŵr, David, bum mlynedd yn ôl. Cymraeg oedd ei iaith gyntaf, a dw i’n dysgu Cymraeg er cof amdano. Bu’n Athro Diwinyddiaeth (Professor of Theology) yn Llanbedr Pont Steffan am lawer o flynyddoedd. David wnaeth fy nghyflwyno i Gapel Soar y Mynydd gyntaf, lawer o flynyddoedd yn ôl. Felly, mae’n lle pwysig iawn i fi.

Dw i ddim yn mynd yno’n ddigon aml. Ond dw i’n mynd yno yn fy nghof ac yn fy mreuddwydion.

Capel Soar-y-Mynydd yw’r Capel mwyaf pellennig/anghysbell yng Nghymru gyfan. Cyfarfu’r ysgol leol yn y tŷ capel hyd at y 1940au.