Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno gan Tata Steel ar gyfer ffwrnais arc drydan newydd werth £1.25bn ar safle gweithfeydd dur Port Talbot.
Cafodd y cynnig ei gyflwyno i adran gynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot fis yma, ar ôl i ffwrneisi chwyth y safle gael eu cau ym mis Medi, gyda thros 2,000 o swyddi wedi’u colli o ganlyniad.
Pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, gallai olygu creu ffwrnais arc drydan â chapasiti o 3.2m tunnell ym Mhort Talbot dros y blynyddoedd i ddod, gyda chytundeb eisoes wedi’i lofnodi gan y cwmni Eidalaidd Tenova i’w hadeiladu.
Tra bo cau’r ffwrneisi chwyth yn golygu na fydd unrhyw “ddur crai” yn cael ei greu o’r newydd ar y safle yn y dyfodol, dywed y cynlluniau y bydd gan y ffwrnais arc drydan gapasiti ar gyfer tair miliwn tunnell o ddur bob blwyddyn drwy doddi dur sgrap.
Unwaith y byddai’n weithredol, medden nhw, byddai’r ffwrnais arc drydan newydd yn lleihau allyriadau carbon y safle dur gan 90%, sy’n cyfateb i bum miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn.
‘Cam pwysig arall’
“Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi cyflwyno’n cais cynllunio ar gyfer cynhyrchu dur drwy ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot, a hoffwn ddiolch i’r bobol niferus hynny sydd wedi ymgysylltu â ni hyd yma,” meddai Rajesh Nair, Prif Weithredwr Tata Steel UK, ar ôl i’r cynlluniau gael eu cyflwyno.
Dywed Jonathan Reynolds, yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach, fod “hyn yn nodi cam pwysig arall tuag at ddyfodol hirdymor disglair i gynhyrchu dur yn ne Cymru, ac yn adeiladu ar y cytundeb gwell ar gyfer trawsnewid Port Talbot mae’r llywodraeth hon wedi’i gytuno gyda Tata Steel”.
“Mae’n wych gweld y cynlluniau hyn yn symud yn eu blaenau’n gyflym, wrth i ni barhau i weithio tuag at ddatgarboneiddio’r sector dur,” meddai.
“Bydd ein Strategaeth Dur sydd i ddod, gyda chefnogaeth hyd at £2.5bn o gyllid, yn helpu i yrru’r cynnydd hwn ymhellach fyth.”
Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot bellach yn cynnal eu hadolygiad ac ymgynghoriad eu hunain ar gyfer y prosiect arfaethedig, a’r disgwyl yw y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ddechrau 2025, a’r disgwyl yw mai 2027 fydd y dyddiad cwblhau posib.