Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dechrau chwilio am Brif Weithredwr newydd.
Dywed yr awdurdod lleol eu bod nhw’n “ceisio arweinydd strategol blaengar” i gymryd y brif swydd, yn dilyn ymadawiad Christina Harrhy.
Mae disgwyl i’w holynydd gydweithio â chynghorwyr “i ddarparu arweinyddiaeth, cyngor a chyfeiriad strategol” a helpu’r Cyngor “i gyflwyno’u cyfeiriad, gweledigaeth a gwerthoedd strategol”.
Dechreuodd Cyngor Caerffili hysbysebu swydd y Prif Weithredwr yr wythnos hon, ac maen nhw’n chwilio am ymgeiswyr â “phrofiad o reolaeth uwch ac arweinyddiaeth ar lefel gorfforaethol”.
£156,939 yw’r cyflog sy’n cael ei gynnig.
Does dim disgwyl y bydd y Prif Weithredwr newydd yn dechrau yn y swydd tan o leiaf fis Chwefror 2025, fodd bynnag.
Mae hysbyseb swydd ar wefan y Cyngor yn dangos mai’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ar ddydd Gwener, Tachwedd 29.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr fynychu asesiadau a chyfweliadau wedyn dros y ddeufis i ddilyn, gan arwain at gyfweliad terfynol ar Ionawr 30.
Ffrae
Gadawodd Christina Harrhy yr awdurdod fis diwethaf, yn dilyn absenoldeb hir.
Cafodd ei hymadawiad ei gadarnhau yn ystod cyfarfod y tu ôl i ddrysau caeëdig ar Hydref 7, pan gytunodd cynghorwyr, mae’n debyg, i setliad gwerth £209,000.
Ond mae’r helynt yn dilyn y setliad honedig hwnnw’n parhau, wrth i Sean Morgan, arweinydd y Cyngor, gyfeirio’i hun at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru “er mwyn tryloywder” ynghylch “gohebiaeth ddiweddar” â phreswylydd yn ymwneud â’r setliad, yn ôl pob tebyg.
Ddydd Mercher (Tachwedd 6), daeth y cyfeiriad diweddaraf at y setliad yn y Senedd gan Natasha Asghar, yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, wrth iddi ddweud wrth weinidog ei bod hi wedi’i “ffieiddio” o glywed “y datgeliad diweddar fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dyfarnu setliad o £209,000 i’w cyn-Brif Weithredwr mewn cytundeb gafodd ei wneud y tu ôl i ddrysau caeëedig”.
“Dw i’n siŵr y byddai’n well gan fy etholwyr yng Nghaerffili pe bai’r arian hwn, mewn gwirionedd, yn cael ei wario ar ragor o nyrsys neu feddygon neu, â dweud y gwir, ar unrhyw beth arall fyddai er lles yr awdurdod lleol,” meddai, cyn galw ar gynghorau i fod “mor agored a thryloyw â phosib â’r bobol maen nhw’n eu gwasanaethu”.
Atebolrwydd
Atebodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru, fod “awdurdodau lleol yn gwneud y penderfyniadau hynny ac yn atebol amdanyn nhw”.
Wrth siarad yn dilyn y cyfarfod ar Hydref 7, cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Caerffili fod cynghorwyr eisoes wedi cyfarfod yn breifat i drafod “mater cyflogaeth cyfrinachol”.
“Ni fyddai’n briodol datgelu manylion y cyfarfod,” meddai’r llefarydd.
“Gallwn gadarnhau bod Christina Harrhy wedi gadael yr awdurdod, ac y bydd y Dirprwy Brif Weithredwr Dave Street yn gweithredu fel Prif Weithredwr dros dro tra bo’r Cyngor yn ystyried y camau nesaf yn nhermau penodi Prif Weithredwr parhaol.”