Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru wedi croesawu penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i ymgynghori ar addasu’r terfyn cyflymder 20m.y.a. diofyn.
Er bod y polisi mewn grym, mae gan awdurdodau lleol Cymru y pwerau i addasu’r terfyn os ydyn nhw’n teimlo bod angen gwneud hynny mewn rhai mannau.
Dyma’r tro cyntaf i awdurdod lleol weithredu ar sail ymgynghoriad, ar ôl iddyn nhw fod yn ymgynghori â thrigolion, busnesau a chymunedau er mwyn sicrhau bod y terfyn yn cael ei dargedu yn y ffordd fwyaf priodol.
Cafodd canllawiau diwygiedig eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf er mwyn rhoi’r penderfyniad yn nwylo’r 22 awdurdod lleol.
Newid y terfyn
Mae Cyngor Sir y Fflint bellach wedi dechrau cyhoeddi eu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (TRO) ar gyfer ffyrdd maen nhw wedi’u hasesu fel bod modd eu newid i 30m.y.a. o bosibl, trwy ddechrau gyda chynnig i newid y terfyn cyflymder ar ddwy ffordd yn Sir y Fflint, sef:
- A5026 Lloc
- Rhan o’r A548 Bagillt/Mostyn Road
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi rhagor o ffyrdd bob wythnos rhwng nawr a’r Nadolig, a bydd unrhyw ffyrdd sy’n weddill yn cael eu hysbysebu ym mis Ionawr.
Bydd y Cyngor yn ymgysylltu eto â’r cyhoedd drwy’r broses Gorchymynion Rheoleiddio Traffig cyn gwneud penderfyniad terfynol ar ffyrdd yn y sir.
Er mai Cyngor Sir y Fflint yw’r cyntaf i ddechrau’r broses Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, mae disgwyl y bydd Awdurdodau Lleol eraill yn dilyn yn yr un modd dros y misoedd nesaf.
‘Gwrando ar farn pobol’
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
“Rwy’n falch o weld Cynghorau’n gwrando ar farn pobol ac yn gwneud cynnydd o ran adolygu’r ffyrdd yn eu hardaloedd y maen nhw’n credu y gellid eu newid yn ddiogel yn ôl i 30m.y.a.” meddai Ken Skates.
“Cyngor Sir y Fflint yw’r awdurdod lleol cyntaf i ddechrau’r broses statudol i wneud newidiadau ar lefel leol, a bydd mwy o Awdurdodau Lleol yn dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses wrando hon hyd yn hyn, ac mae’n gadarnhaol gweld pethau’n symud ymlaen.
“Rydyn ni’n gwybod fod consensws mai 20m.y.a. yw’r cyflymder cywir ar lawer o’n ffyrdd ger ysgolion, ysbytai, ardaloedd chwarae ac ardaloedd adeiledig.
“Rydym wedi gwrando ac wedi grymuso cymunedau lleol i wneud penderfyniadau, fel bod gennym y cyflymder cywir ar y ffyrdd cywir i wneud 20m.y.a. yn llwyddiant i Gymru.”