Wrth i blaid Reform UK baratoi i gynnal eu cynhadledd Gymreig yng Nghasnewydd, mae Liz Saville Roberts yn dweud eu bod nhw “yng Nghymru heddiw yn honni bod yn ddynion y werin bobol”.
Yn ei neges ar X (Twitter), cyfeiria arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan at helynt yn ymwneud â Lee Anderson, oedd yn ddirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr ar y pryd.
Bu’n rhaid i Anderson ymddiheuro ar ôl i ymchwiliad ganfod iddo ddweud wrth swyddog diogelwch am “ff** off” ar ôl iddo ofyn am weld ei bàs i fynd i mewn i San Steffan, gan ychwanegu bod “pawb yn agor y drws i fi”.
Fe wnaeth e regi eto wedyn gan ddweud wrth y swyddog “ff**** ti, mae gen i drên i’w ddal”.
Daeth ymchwiliad i’r casgliad bod y sylwadau’n gyfystyr â “bwlio ac aflonyddu”.
‘Dyma sut maen nhw’n trin pobol dosbarth gweithiol’
“Mae aelodau seneddol Reform yng Nghymru heddiw yn honni bod yn ddynion y werin bobol,” meddai Liz Saville Roberts.
“Roedd un newydd gael gorchymyn i ymddiheuro yn y senedd [San Steffan] am fwlio ac aflonyddu – gan ddweud wrth swyddog diogelwch, “Ff** off, mae pawb yn agor y drws i fi.”
“Dyma sut maen nhw’n trin pobol dosbarth gweithiol.”
Cynhadledd
Mae Lee Anderson ymhlith aelodau Reform UK sydd wedi ymgynnull yng ngwesty’r Celtic Manor ger Casnewydd ar gyfer cynhadledd Gymreig y blaid y penwythnos yma.
Yn ôl yr arweinydd Nigel Farage, bydd ei blaid yn brif wrthblaid i Lafur ar ôl etholiadau’r Senedd yn 2026.
Daw ei ymweliad â Chymru ar ôl bod yn ymgyrchu dros Donald Trump i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Mae disgwyl i Farage arwain ymgyrch etholiadol ei blaid yng Nghymru hefyd, gan nad oes ganddyn nhw arweinydd Cymreig.
Yn ystod ymgyrch Reform ar drothwy’r etholiad cyffredinol yn yr haf, ymwelodd Nigel Farage â Merthyr Tudful i lansio ‘cytundeb y blaid â’r bobol’.
Ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi eu polisïau Cymreig hyd yma, er eu bod nhw’n gobeithio ennill cynifer ag 16 o seddi.
Er nad oes ganddyn nhw seddi Cymreig yn San Steffan, roedden nhw’n ail mewn 13 o seddi, gan ennill 16.9% o’r bleidlais.
Roedd Nigel Farage wedi arwain pleidiau UKIP a Brexit pan oedd ganddyn nhw aelodau yn y Senedd, ac mae gan Reform griw bach o gynghorwyr sir yng Nghymru bellach hefyd.