Mae Llywodraeth Glymblaid neu Gytundeb Cydweithio yn y Senedd ar ôl etholiadau 2026 bron yn “anochel”, yn ôl John Osmond cyd-sylfaenydd Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 6), bu golwg360 yn siarad â’r awdur, newyddiadurwr a chyn-Gynghorydd Arbennig i Adam Price, wrth iddo gymryd rhan mewn noson gyda’r Athro Richard Wyn Jones o’r Ganolfan i hyrwyddo’i lyfr newydd The Politics of Co-Opposition (Welsh Academic Press).

Roedd John Osmond yn rhan allweddol o dîm Adam Price, ac yntau’n Gynghorydd Arbennig i arweinydd Plaid Cymru rhwng rhwng 2018 a 2022.

Yn ystod y cyfnod hwn, bu John Osmond yn cadw dyddiadur o 100 niwrnod cyntaf arweinyddiaeth Adam Price.

Hefyd, mae’r llyfr yn rhoi sylw mawr i’r trafodaethau arweiniodd at y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru o dan arweinyddiaeth Adam Price a Llywodraeth Lafur Cymru dan arweinyddiaeth Mark Drakeford.

Roedd John Osmond yn un o chwech o bobol oedd yn ymwybodol ymlaen llaw o’r Cytundeb Cydweithio gafodd ei greu mewn cwta chwe mis rhwng mis Mai 2021, yn dilyn yr etholiad Seneddol, a Rhagfyr 2021.

Richard Wyn Jones a John Osmond mewn digwyddiad hyrwyddo llyfr ym Mhriysgol Caerdydd neithiwr (Tachwedd 6)

‘Tebygol bydd Llafur a Phlaid Cymru yn cydweithio eto’

Yr hyn sy’n gwneud y llyfr yn ddifyr i bobol sy’n talu sylw manwl i wleidyddiaeth Cymru yw cyd-destun cyhoeddi’r gyfrol.

Mae arolygon barn yn dangos bod cefnogaeth i’r Blaid Lafur ar gyfer etholiadau Senedd Cymru wedi gostwng, a bod cynnydd ym mhoblogrwydd Plaid Cymru o dan arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth, olynydd Adam Price.

Yn ogystal, mae’r gefnogaeth i Reform wedi tyfu hefyd, wrth iddyn nhw ddod yn ail mewn 13 o’r 32 sedd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol.

Felly, mae’r tebygolrwydd o gydwrthwynebiad yn y Senedd ar ôl 2026 yn uchel.

“Mae e i gyd yn ddibynnol ar y rhifau [y seddi o fewn Senedd],” meddai John Osmond wrth golwg360.

“Yr agosaf ydyn nhw yn nhermau seddi, y mwyaf tebygol y bydd yna glymblaid fel cawson ni yn 2007.

“Y pellaf oddi wrth ei gilydd maen nhw, y mwyaf tebygol yw hi y cawn ni rywbeth fel y Cytundeb Cydweithio.”

Dywed ei fod yn dal i gredu bod Llafur “yn debygol” o ennill mwyafrif o seddi, ond fod y system etholiadol d’Hondt a chynnydd yn nifer y seddi i 96 yn dilyn diwygio, diolch i’r Cytundeb Cydweithio, yn golygu bod clymblaid neu gydweithio bron yn “anochel”.

“Y tebygolrwydd yw y bydd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, mewn rhyw ffordd, yn gweithio efo’i gilydd eto o 2026 ymlaen,” meddai.

‘Mark Drakeford yn radical’

Mae pennod yn y llyfr wedi’i neilltuo i Adam Price a Mark Drakeford.

Roedd ymrwymiad y ddau arweinydd i’r Cytundeb Cydweithio yn hanfodol i’w lwyddiant, ac roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn “ffigwr hanfodol”, yn enwedig o bersbectif diwygio’r Senedd a’r system etholiadol, yn ôl John Osmond.

“Roedd rhaid i ni [Plaid Cymru] gyfaddawdu ar rai pethau,” meddai wedyn.

“Roedden ni eisiau STV [Single Transferable Vote] er mwyn rhoi dewis o ymgeiswyr ar restr.

“Ond roedd Llafur eisiau rhestr gaeëdig – rhywbeth wnaethon ni ddadlau yn ei erbyn – ond roedd rhaid i ni gyfaddawdu ar hyn.”

Dywed fod personoliaethau Mark Drakeford ac Adam Price fel “dau ddyn o Gaerfyrddin, ar y chwith” wedi helpu i wneud y Cytundeb Cydweithio’n realiti.

“Mae Mark Drakeford yn ddyn eithaf radical, ac wedi bod yn gefnogwr i gynrychiolaeth gyfrannol,” meddai.

“Ond mae’n rhaid dweud ei fod wedi gwneud gwaith gwych wrth gael y cynnig drwy’r Blaid Lafur.”

Plaid Cymru: plaid polisi Cymru

Roedd tipyn o sôn yn ystod y sgwrs, ac yn y llyfr ei hun, am Blaid Cymru fel y blaid oedd yn gyfrifol am nifer sylweddol o’r polisïau oedd yn y Cytundeb Cydweithio terfynol.

“Roedd yna 46 ymrwymiad [yn y Cytundeb], a daeth 28 ohonyn nhw allan o faniffesto’r Blaid,” meddai John Osmond.

“Daeth pedwar o faniffesto’r Blaid Lafur, a’r 14 sy’n weddill fel syniadau polisi ar y cyd.

“Mae’r pleidiau yn gorgyffwrdd mewn rhai agweddau, ond mae’r stwff radical yn y Cytundeb a’r ymrwymiad i bolisi i gyd yn dod o ochr y Blaid.”

Ychwanega ei fod “yn falch” o nifer o ganlyniadau’r Cytundeb Cydweithio, gan gynnwys prydau ysgol am ddim, gweithredu ar yr argyfwng ail dai, sefydlu Ynni Cymru, a gwneud hanes Cymru yn rhan orfodol o’r Cwricwlwm.