Mae Aelodau’r Senedd wedi ymuno â’r galwadau am gyllid teg i feddygon teulu, ar ôl i 21,000 o bobol ledled Cymry lofnodi deiseb.

Yn y Senedd, mae Carolyn Thomas wedi arwain dadl yr wythnos hon ar y ddeiseb gafodd ei chyflwyno gan Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA) fel rhan o’r ymgyrch ‘Achubwch ein Meddygfeydd’ gan y corff iechyd.

Mae’r gwleidydd Llafur, sydd hefyd yn cadeirio’r Pwyllgor Deisebau, wedi bod yn cyfarfod â meddygon teulu, a dywedodd hi wrth y Senedd fod y neges yn glir, sef bod y model ariannu presennol yn anghynaliadwy.

“Dros y ddau ddegawd diwethaf, wrth i nifer yr apwyntiadau wyneb-yn-wyneb, y cysylltiadau digidol a’r galwadau ffôn godi, mae cymhlethdod y gwaith wedi’i drawsnewid, mae costau gweinyddu wedi codi, ac mae costau’r safleoedd wedi neidio,” meddai.

“Ond mae’r gyfran o’r gyllideb iechyd sy’n cael ei gwario ar wasanaethau meddygfeydd teulu wedi lleihau.”

‘Dadfeiliedig’

“Mewn rhai ardaloedd, recriwtio a chadw staff ydy’r prif bryder, ond mewn ardaloedd eraill ffabrig dadfeiliedig yr adeiladau sy’n peri gofid,” meddai Carolyn Thomas, sy’n cynrychioli rhanbarth gogledd Cymru yn y Senedd.

“Mewn ardaloedd eraill eto, y prif broblemau ydy’r boblogaeth yn heneiddio, neu dwf llwyth gwaith mewn modd lle nad oes twf cyfatebol o ran capasiti.

“Ond islaw hyn i gyd mae’r arian i dalu am y gwasanaethau rydyn ni i gyd am eu gweld.”

Dywedodd Sam Rowlands, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, fod 8% o gyllid Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n mynd at feddygfeydd teulu, sy’n is na lefelau 2005-06.

Cyfeiriodd at dros 100 o feddygfeydd sydd wedi cau dros y deuddeg mlynedd diwethaf.

‘Tan-fuddsoddiad anferthol’

Fe wnaeth Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, feirniadu “tan-fuddsoddiad anferthol” dros y deng mlynedd diwethaf, gan ddweud wrth y Senedd fod Cymru’n parhau i fod â 500 meddyg teulu yn llai na’r cymedr yng ngwledydd sefydliad rhynglywodraethol yr OECD.

“Roedd 372 gwasanaeth meddyg teulu ar ddiwedd mis Mehefin, sydd 14 yn llai na phan lansiodd y BMA yr ymgyrch ‘Achubwch ein Meddygfeydd’,” meddai.

“Mae’n amlwg, felly, bod y rhybuddion rheolaidd hyn am brinder cyflenwad… wedi’u hesgeuluso’n llwyr.”

‘Gwallgof’

Roedd Heledd Fychan, sy’n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, wedi sôn am bryderon bod cwmnïau mawr, sydd yn aml â’u pencadlysoedd y tu allan i Gymru, yn camu i mewn i farchnad gwasanaethau meddygon teulu.

“Yn ardal Aneurin Bevan, mae meddygfeydd Harley Street yn enghraifft glir o hyn,” meddai.

“Mae hyn yn parhau â’r duedd niweidiol o elw’n cael ei gymryd o’r system iechyd ac i bocedi preifat, ac mae hefyd yn gwneud y cyflenwad yn fregus.”

Fe wnaeth ei chydweithiwr Luke Fletcher sôn am arolwg gan y BMA oedd wedi canfod nad yw bron i bedwar ym mhob pump o feddygon teulu locwm yn medru canfod gwaith, er gwaetha’r ffaith fod amseroedd aros wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed.

“Mae[‘r arolwg hwnnw] yn Lloegr, ond yma yng Nghymru mae symptomau’r un argyfwng wedi bod yn amlwg ers sbel – ond dydy’r data ddim fel petai’n hygyrch…,” meddai.

“O’m profiad innau, mae pobol wedi dweud wrtha’ i fod meddygon locwm yng Nghymru’n edrych am waith mewn meysydd eraill; mae rhai’n ystyried swyddi manwerthu neu’n gyrru tacsis.

“Mewn cyfnod pan ydyn ni’n pledio am feddygon teulu ac yn derbyn bod prinder meddygon teulu, mae’r sefyllfa honno’n wallgof.”

‘Hen ffasiwn’

Gan rybuddio bod anrhefn ar y gwasanaethau, soniodd y Ceidwadwr Laura Anne Jones am arolwg sy’n dangos y bydd 37% o feddygon teulu Cymru yn gadael y proffesiwn ymhen pum mlynedd, o bosib.

Dywedodd Julie Morgan ei bod hi wedi clywed yr un sôn yn ei hetholaeth hi.

“Maen nhw’n cael trafferth cadw lefelau diogel o wasanaeth ac yn poeni am fedru parhau,” meddai.

Dywedodd y cyn-weinidog wrth y Senedd fod Gogledd Caerdydd yn yr 1% isaf ar draws y Deyrnas Unedig o ran y meddygfeydd sydd wedi’u hariannu, oherwydd y defnydd o’r fformiwla ‘hen ffasiwn’ Carr-Hill i gyfrifo cyllid.

Pwysleisiodd Jenny Rathbone, sydd hefyd ar feinciau cefn y Blaid Lafur, bwysigrwydd prosiect Deep End Cymru, sy’n anelu at gefnogi 100 o feddygfeydd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Soniodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, am ei phryderon ynglŷn â lles staff, gan ailadrodd galwadau am bremwim i gydnabod yr heriau sylweddol sydd gan feddygon teulu mewn ardaloedd gwledig.

‘Anghydbwysedd’

Wrth ymateb i ddadl ar Dachwedd 6, dywedodd Jeremy Miles fod meddygfeydd yng Nghymru’n trin nifer anhygoel o gleifion – tua 1.5m – bob mis.

“Dw i am i feddygon teulu wybod ein bod ni wedi clywed eu negeseuon am y galw anferthol a’r pwysau ar les staff,” meddai.

Dywedodd fod gweinidogion wedi dewis ymrwymo £1bn dros dymor y Senedd er mwyn clirio’r rhestrau wrth gefn a lleihau amseroedd aros wedi’r pandemig.

“O anghenraid, mae hyn yn golygu bod cyfran uwch o’r cyllid wedi mynd i ofal eilaidd,” meddai.

“Bydd cywiro’r anghydbwysedd hwn yn flaenoriaeth ar gyfer penderfyniadau ariannol o hyn ymlaen.

“Ac rydyn ni wedi’n hymrwymo’n llwyr i’r egwyddor o ddarparu mwy o ofal yn agosach at y cartref.”