Mae cynllun i adnewyddu ffynnon yng nghanol tref Llanbed, sy’n cynnwys cerfiad yn ymwneud â Julian Cayo-Evans – arweinydd Byddin Ryddid Cymru ar un adeg – wedi cael ei gymeradwyo gan gynllunwyr yng Ngheredigion.

Mewn cais i Gyngor Sir Ceredigion, fe wnaeth Cyngor Tref Llanbed geisio caniatâd i adfer ffynnon Sgwâr Harford, sy’n Rhestredig Gradd II, ar ôl derbyn cyllid gan gynllun Trawsnewid Trefi.

Cafodd y ffynnon, gafodd ei hadeiladu yn 1862, ei rhoddi gan J S Harford o Peterwell i drigolion Llanbed a chafodd ei hadnewyddu yn 1990.

Roedd y teulu’n byw ar Ystad Falcondale ar gyrion y dref.

Darparodd y ffynnon ddŵr yfed cyntaf Llanbed i bobol y dref, ac fe leihaodd yr angen i fenywod lleol gasglu dŵr o’r afonydd lleol, medd datganiad yn cefnogi’r cais.

Adnewyddu’r ffynnon

Mae’r rhestr faith o waith i’w wneud yn cynnwys glanhau ac ail-bwyntio’r ffynnon, ynghyd â thrwsio ac ailofferu cydrannau, disodli cegau mygydau cadno “gafodd eu symud gan bobol anhysbys”, a gwaith i “alluogi’r dŵr i lifo unwaith eto, gan ddod â’r ffynnon yn ôl yn fyw”.

Dywed fod “y gymuned yn benderfynol o gynnal cymeriad y dref a denu bywiogrwydd, gan wneud defnydd llawn o’i hasedau presennol, drwy sicrhau bod ein tref yn ddeniadol, a bod ei hadnoddau’n hygyrch i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd”.

Ychwanega: “Yn ystod ein harchwiliad paratoadol o’r ffynnon, mae cerfiad wedi cael ei ganfod, o enw cymeriad adnabyddus yn Llanbed, Julian Cayo-Evans, sydd o bwysigrwydd treftadaeth lleol a chenedlaethol.”

Julian Cayo-Evans

Cafodd Julian Cayo-Evans ei eni yn Silian ger Llanbed, ac mae’n fwyaf adnabyddus fel arweinydd Byddin Ryddid Cymru, sydd â’r Eryr Wen yn arwyddlun.

Ymddangosodd Byddin Ryddid Cymru’n gyhoeddus am y tro cyntaf yn 1965, mewn protest yn erbyn adeiladu argae Llyn Celyn, a’r flwyddyn ganlynol fe wnaethon nhw ymuno â dathliadau Gwyddelig hanner canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn.

Yn y cyfnod cyn Arwisgo Tywysog Cymru yn 1969, cafwyd Cayo-Evans yn euog o gynllwyn i achosi ffrwydradau, ac o droseddau eraill yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Bu farw yn Silian yn 1995.

Cafodd y cais ei gymeradwyo’n amodol gan swyddogion cynllunio Ceredigion yn unol â phwerau wedi’u dirprwyo.