Bydd un o benaethiaid bwrdd iechyd y gogledd yn ymddiswyddo fis nesaf, ar ôl i gyfrifon anghywir “bwriadol” gael eu darganfod ddwy flynedd yn ôl.
Ers i ymchwilwyr arbenigol gael eu galw i edrych ar gyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Rhagfyr 2022, mae Sue Hill, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid y sefydliad, wedi bod yn absennol o’i gwaith.
Yn ôl y bwrdd, fydd Sue Hill ddim yn derbyn setliad ariannol pan fydd hi’n gadael ei swydd fis nesaf.
Mae aelodau eraill o staff yn dal yn destun ymchwiliad, tra bod absenoldeb Sue Hill wedi dechrau wrth i ymchwiliadau gael eu cynnal i “wallau sylweddol” gafodd eu canfod gan archwilwyr.
Ymchwiliadau
Cafodd cyfrifwyr allanol eu galw i ymchwilio ymhellach, gan ddod o hyd i “fethiannau diwylliannol systemig” yn nhîm cyllid y sefydliad, gyda staff yn gwneud cofnodion anghywir “bwriadol” yn eu cyfrifon.
Dywedodd adroddiad y cyfrifwyr fis Ionawr y llynedd fod y Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac aelodau eraill o’r tîm cyllid wedi dweud wrthyn nhw nad oedden nhw’n ymwybodol o gofnodion wedi’u postio i’r flwyddyn ariannol anghywir.
Fodd bynnag, roedd y cyfrifwyr yn dweud bod hyn yn “anghyson” â thystiolaeth ddogfennol.
Does dim tystiolaeth bod unrhyw un wedi elwa’n bersonol ar y methiannau.
Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywed Jason Brannan, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Pobol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fod Sue Hill wedi dweud wrth y bwrdd iechyd am ei bwriad i ymddeol o’r sefydliad, ac y bydd hi’n gadael ym mis Rhagfyr.
“Mae Sue ar gyfnod o absenoldeb ar y funud ar ôl cael llawdriniaeth sylweddol a thriniaeth yn ystod y deuddeg mis diwethaf, ac mae ein meddyliau ni gyda hi wrth iddi ganolbwyntio ar ei hiechyd a gwella,” meddai.
Ychwanega’r datganiad fod ymchwiliadau gan asiantaethau Atal Twyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Heddlu’r Gogledd wedi dod i ben heb i unrhyw gamau gael eu cymryd.
Mae ymchwiliad mewnol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ddechreuodd fis Mai y llynedd, “wedi’i gwblhau” mewn perthynas â Sue Hill hefyd, meddai Jason Brannan.
‘Ddim digon da’
Bydd llawer o bobol yng ngogledd Cymru “wedi’u synnu” nad oes neb wedi cael eu dal yn atebol am y methiannau bron i ddwy flynedd wedi i’r sgandal ddod i’r golwg ac wedi i’r bwrdd iechyd gael ei roi’n ôl mewn mesurau arbennig, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dyw hyn ddim digon da, a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am hyn o ystyried bod y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig,” meddai Darren Millar, llefarydd y blaid ar ogledd Cymru.