Wrth i dafarndai ailagor y tu mewn yng Nghymru heddiw (dydd Llun, Awst 3), mae golwg360 wedi bod yn holi perchnogion a staff ambell dafarn ynglŷn â’r diwrnod cyntaf yn ôl.
Ddydd Gwener (Gorffennaf 31) pwysleisiodd y Prif Weinidog bod gan bawb “gyfrifoldeb” i gadw Cymru’n ddiogel, ac y dylai pawb gadw at y rheolau pellter cymdeithasol os ydyn nhw yn mynd i dafarndai neu yn cyfarfod mewn grwpiau.
Y Talbot, Tregaron
Dywedodd un o aelodau staff Y Talbot, Tregaron, wrth golwg360 mai “mater o ddysgu wrth fynd ymlaen” fydd hi ar ôl diwrnod cyntaf “prysur” yn ôl.
“Rydym wedi bod yn paratoi ers wythnosau ond mae rhai o’r pethau roedden ni’n credu y byddai’n gweithio’n dda heb weithio cystal,”
“Mater o ddysgu wrth fynd ymlaen fydd hi, trial and error, oherwydd does neb yn gwybod yn iawn beth sy’n gweithio a beth sy’ ddim.
“Roedd pawb ychydig yn nerfus i ddod yn ôl, ond rydym ni gyd wedi mwynhau bod yn ôl yn y gwaith er ei bod hi wedi bod yn ddiwrnod prysur.
“Nawr, byddwn ni’n ei chymryd hi un cam ar y tro a gobeithio bod popeth yn mynd yn iawn.”
Y Black Boy, Caernarfon
Mae perchennog tafarn y Black Boy wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn poeni nad yw rhai o dafarndai’r dref yn cymryd y camau diogelwch priodol wrth ailagor.
“I fod yn onest, dw i’n credu bod yno rai llefydd yn y dref sy’n cymryd risg mawr drwy beidio dilyn y canllawiau priodol,” meddai John Evans wrth golwg360.
“Rydym wedi cael lot o bobol yn dod aton ni ac yn holi pam ein bod ni’n cymryd y camau diogelwch ’ma tra bod tafarndai eraill ddim.”
Ond er gwaethaf ei rwystredigaeth gyda rhai o dafarndai eraill y dref, dywed John Evans bod popeth wedi mynd yn “esmwyth” yn y Black Boy.
“Mae popeth wedi mynd yn esmwyth fan hyn, rydan ni wedi gallu sortio’r holl broblemau gawson ni ac roedd hi’n braf iawn gallu ailagor yn llawn.”
Scholars, Aberystwyth
Dyweododd aelod o staff tafarn Scholars, Aberystwyth, wrth golwg360 bod hi “ddim yn disgwyl iddi fod yn rhy brysur” wrth i’r darfan agor am 4 yr hwyr ddydd Llun (Awst 3).
“Dw i’n credu y bydd rhai pobol yn dal i fod yn ofidus am y feirws ac ati, felly dw i ddim wir yn disgwyl iddi brysuro tan y penwythnos o leiaf.”
Fel pob tafarn arall, soniodd fod Scholars wedi bod yn brysur iawn yn paratoi’r dafarn ar gyfer ailagor.
“Rydyn ni wedi gorfod symud lot o’r dodrefn, casgenni ac yn y blaen o gwmpas fel bod modd cadw at ganllawiau pellhau cymdeithasol.
“Ac wrth gwrs bu’n rhaid i ni wario cryn dipyn o arian ar offer… glanweithyddion a’r math yna o beth.
“Ond bydd hi’n braf iawn gweld yr hen wynebau’n dod yn ôl drwy’r drws.”