Bydd gallu’r Deyrnas Unedig i gynhyrchu brechlynnau yn cael hwb pellach heddiw (dydd Llun, Awst 3) o ganlyniad i gynllun newydd i gynyddu capasiti yn sylweddol mewn rhan hanfodol o’r broses weithgynhyrchu ar gyfer brechlynnau Covid-19.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymuno mewn cytundeb 18 mis gyda chwmni fferyllol a biotechnoleg byd-eang Wockhardt i gyflawni cam hanfodol ‘llenwi a gorffen’ (‘fill and finish‘) y broses weithgynhyrchu, sy’n golygu rhoi sylwedd y brechlyn mewn ffiol yn barod i’w ddosbarthu.

Disgwylir i’r cynllun llenwi a gorffen ddechrau ym mis Medi 2020 ac fe’i cynhelir yn CP Pharmaceuticals, un o is-gwmnïau Wockhardt sydd wedi ei leoli yn Wrecsam ac sydd â’r gallu i orffen miliynau o ddosau o frechlyn coronafeirws.

Cynhyrchu yng Nghymru

“Mae’r cytundeb hwn yn dangos pa mor bwysig yw gweithgynhyrchwyr Cymru yn y frwydr yn erbyn coronafeirws,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart.

“Mae sicrhau’r capasiti gweithgynhyrchu hwn yn golygu y gallai brechlynnau diogel ac effeithiol, a gynhyrchir yng Nghymru, gael eu dosbarthu’n gyflym i bobl ledled y Deyrnas Unedig.”