Mae’r fenter gymunedol Porthi Pawb wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sydd yn eu galluogi i barhau i weithredu.

Drwy gydol y cloi mawr, mae Porthi Pawb wedi bod yn dosbarthu bwydydd poeth i unigolion bregus a’r henoed yng Nghaernarfon.

Dechreuodd Porthi Pawb gyda chwech o bobol yn paratoi a dosbarthu bwyd, ond bellach mae rhwng 50 a 60 o bobol yn gwneud gwaith dros y fenter.

“Dim bwriad i stopio”

Ac yn sgil derbyn y cyllid ychwanegol, dywed un o gydlynwyr y fenter, Dewi Jones, wrth golwg360 bod “dim bwriad stopio.”

“Mae o’n rhywbeth sydd ei angen yn yr ardal ac rydym yn falch iawn i allu parhau i ddosbarthu bwydydd i bobol tu hwnt i’r pandemig,” meddai.

“Mi oedden ni’n poeni am yr wythnosau i ddod, ond ddim bellach.

“Mae’r bobol rydan ni’n eu gwasanaethu’n falch iawn o glywed y newyddion, mae o’n rhoi sicrwydd iddyn nhw ein bod ni dal yn mynd i allu eu bwydo.”

“Diolch”

Mae Dewi Jones hefyd yn ddiolchgar i’r mudiadau eraill sydd wedi cefnogi’r fenter.

“Diolch mawr i ADRA, Mantell Gwynedd, Plaid Cymru, Capel Noddfa, Cofis Curo Corona, Gŵyl Fwyd Caernarfon, Cyngor Gwynedd, Morrisons a Tesco sydd i gyd wedi rhoi cefnogaeth wych i ni a’n galluogi ni i wneud yr hyn rydym yn ei wneud,” meddai wrth golwg360.