Mae British Airways wedi cael ei gyhuddo o “gieiddiwch diwydiannol” gan arweinydd undeb Unite.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Len McCluskey, fod y cwmni hedfan yn anghywir i gredu y gallai “gerdded dros” ei staff.
Cyhoeddodd IAG, perchennog British Airways, ym mis Ebrill y byddai’n torri hyd at 12,000 o swyddi oherwydd pandemig y coronafeirws.
Mae Unite yn honni bod y cwmni’n bwriadu diswyddo ac ailgyflogi gweithwyr ar delerau ac amodau gwaeth os na ellir dod i gytundeb.
Wrth siarad â rhaglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd Mr McCluskey: “Mae ein prif gwmni hedfan, sy’n cyflogi 42,000 o weithwyr, eisiau diswyddo 12,000 o weithwyr… a’r 30,000 sy’n weddill – maent am eu sacio a’u hailgyflogi ar delerau ac amodau llawer gwaeth.
“Mae’n ddim byd ond cieiddiwch diwydiannol.”
“Dall a byddar”
Yn ddiweddar, dywedodd Prif Weithredwr IAG, Willie Walsh, fod Unite yn “ddall a byddar” am effaith ariannol y pandemig.
Mae hyn yn “hollol anghywir”, mynnodd Mr McCluskey, “rydym eisiau eistedd i lawr a thrafod sut y gallwn eu cynorthwyo i oroesi’r argyfwng”.
Yr wythnos ddiwethaf, pleidleisiodd peilotiaid British Airways i dderbyn pecyn yn cynnwys toriadau i swyddi a chyflogau gyda’r nod o osgoi nifer dipyn mwy o ddiswyddiadau.
Dywedodd undeb y peilotiaid, Balpa, y bydd tua 270 o ddiswyddiadau gorfodol a thoriadau cyflog dros dro yn dechrau ar 20% ac yn gostwng i 8% dros ddwy flynedd – cyn disgyn i ddim dros y tymor hir.
Dywedodd Mr McCluskey y byddai Unite – sy’n cynrychioli miloedd o staff British Airways gan gynnwys criw caban a pheirianwyr – yn derbyn yr un fargen pe bai ar gael.
“Ond nid yw British Airways yn cynnig yr un ddêl [i ni],” meddai.
“Dyma unigolyn, Willie Walsh, a’i dîm rheoli, sy’n credu, gan fod y rhan fwyaf o’n haelodau ar ffyrlo, eu bod mewn sefyllfa fregus, a’i fod yn gallu cerdded drostyn nhw.
“Wel, mae’n amlwg nad yw’n adnabod ei weithlu – mae’n annheg. Nid oes unrhyw gwmni arall – nid dim ond yn y sector hedfan – nid oes unrhyw gwmni arall yn y Deyrnas Unedig wedi mabwysiadu’r math hwn o dacteg.”
Newid strwythurol
Dywedodd llefarydd ar ran British Airways: “Rydyn ni’n gweithredu nawr i ddiogelu cymaint o swyddi â phosibl. Mae’r diwydiant hedfan yn wynebu’r newid strwythurol mwyaf yn ei hanes, yn ogystal ag wynebu economi fyd-eang sydd wedi gwanhau’n ddifrifol.
“Rydym yn galw ar Unite a GMB i weithio gyda ni fel y mae Balpa, undeb y peilotiaid, yn ei wneud. Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn ddiogelu mwy o swyddi wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol newydd.”
Nid yw’r cwmni hedfan yn disgwyl i’r galw am hedfan ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig tan o leiaf 2023.
Cyhoeddodd IAG ddydd Gwener ei fod wedi gwneud colled cyn treth o 4.2 biliwn ewro yn chwe mis cyntaf y flwyddyn.