Mae cwmni Hays Travel yn bwriadu torri hyd at 878 o swyddi allan o weithlu o 4,500 o bobl.

Dywedodd y cwmni teithio ei fod wedi “gwneud pob ymdrech bosibl” i osgoi colli swyddi “yn ystod yr adegau anghyffredin a thrallodus hyn”.

Roedden nhw “ar y trywydd iawn at adferiad”, meddai’r cwmni, pan stopiodd y Swyddfa Dramor gynghori yn erbyn teithio nad oedd yn hanfodol ar ddechrau mis Gorffennaf.

Fodd bynnag, fe wnaeth y penderfyniad diweddar i ailgyflwyno cyfyngiadau ar gyfer pobl sy’n mynd i Sbaen “sbarduno canslo cannoedd ar filoedd o wyliau”.

“Torri’n calonnau”

Dywedodd y perchnogion, John ac Irene Hays: “Rydym wedi ein distrywio ein bod, ar ôl ein holl ymdrechion a’r buddsoddiad enfawr rydyn ni wedi’i wneud, bellach yn wynebu colli rhai o’n gweithwyr gwerthfawr, heb ddim bai arnynt hwy.

“Yn dilyn y penderfyniad i wahardd teithio i Sbaen a’r newidiadau i amodau ffyrlo sy’n dod ar yr un pryd, does dim dewis ganddon ni.

“Rydym hefyd yn torri’n calonnau dros bawb a allai golli eu swydd a byddwn yn gwneud popeth a allwn i’w helpu, wrth i ni ganolbwyntio ar gadw cynifer o bobl â phosibl ac ailadeiladu hyder cwsmeriaid drwy ein gwasanaeth cwsmeriaid sy’n adnabyddus am fod yn gyfeillgar a gwybodus.”

Thomas Cook

Synnodd cwmni Hays lawer ym mis Hydref 2019 gan gymryd holl asiantaethau teithio Thomas Cook, 555 ohonyn nhw, a thrwy hynny arbed miloedd o swyddi ar draws y Deyrnas Unedig wedi i Thomas Cook fynd allan o fusnes ar ol 178 o flynyddoedd.

Dywedodd Hays nad oedd wedi cael “unrhyw ddiswyddiadau sylweddol” yn ei 40 mlynedd o fodolaeth.

Mae wrthi nawr yn ymgynghori â 344 o weithwyr sy’n hyfforddi fel ymgynghorwyr teithio yn ogystal â 534 o weithwyr yn ei is-adran cyfnewid arian tramor.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd cwmni arall, Tui, y byddai’n cau bron i draean o’i siopau stryd fawr yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon oherwydd y pandemig.

Mae’n bwriadu symud 70% o’r 900 o swyddi yr effeithiwyd arnynt i “dîm gwerthu a gwasanaethu” newydd, gyda’r staff yn gweithio o’u cartrefi.