Mae goroeswyr a diffoddwyr tân Grenfell wedi beirniadu enwebu cyn-swyddog amlwg yng Nghyngor Kensington a Chelsea am le yn Nhŷ’r Arglwyddi, gan alw’r penderfyniad yn “warthus”.

Gwnaeth Undeb y Brigadau Tân drydar: “Fe wnaeth Theresa May urddo Gavin Barwell a anwybyddodd, fel Ysgrifennydd Tai, nifer o rybuddion diogelwch tân cyn Grenfell.

“Nawr, mae Boris Johnson wedi penodi Dirprwy Arweinydd y Cyngor, a oedd yn trin trigolion Grenfell â dirmyg, i swydd braf yn Nhŷ’r Arglwyddi.

“Mae’n warthus.”

Pendwmpian

Mae grŵp Grenfell United yn honni bod Daniel Moylan “wrth wraidd diwylliant a oedd yn trin trigolion â dirmyg”.

Hefyd, rhannodd y grŵp ddelwedd oedd i’w weld yn dangos Moylan yn pendwmpian mewn cyfarfod craffu sawl mis ar ôl y tân dinistriol a laddodd 72 o bobl yn 2017.

Roedd Mr Moylan, cynghorydd Ceidwadol rhwng 1990 a 2018, gan gynnwys 11 mlynedd fel Dirprwy Arweinydd yr awdurdod lleol rhwng 2000 a 2011, hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Transport for London ac yn gynghorydd i Boris Johnson pan oedd yn Faer Llundain.

Ar hyn o bryd, mae’n gadeirydd Urban Design London, sefydliad di-elw sy’n canolbwyntio ar wella mannau cyhoeddus.

Yn ôl gwefan Bwrdeistref Brenhinol Kensington a Chelsea, ni cheisiodd Mr Moylan gael ei ail-ethol yn 2018, gan ddod â’i 28 mlynedd gyda’r Cyngor i ben.