Mae gwyddonydd blaenllaw wedi dweud bod penderfyniadau pwysig Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn perthynas â’r coronafeirws wedi’u gwneud yn “gudd ac yn gyfrinachol”.
Gan alw am fwy o dryloywder ynghylch polisïau’r pandemig, dywedodd Syr Paul Nurse, Cyfarwyddwr Sefydliad Francis Crick, y dylai’r Llywodraeth “drin y cyhoedd fel oedolion” yn ei gyfathrebiadau dros Covid-19.
Dywedodd wrth raglen Today y BBC: “Rwy’n credu bod angen i ni fod yn fwy agored wrth wneud penderfyniadau.
“Weithiau mae’n ymddangos braidd yn gyfrinachgar.
“Ac nid yn unig hynny, ond mae angen gwell cyfathrebu o’r hyn sy’n digwydd.
“Mae angen trin y cyhoedd fel oedolion.”
Ffydd y cyhoedd
Ychwanegodd: “Fe wna’ i roi un enghraifft.
“Pan oedd yr haint ar ei anterth, roeddwn i mewn Pwyllgor Dethol ym mis Ebrill ac roedd person iechyd cyhoeddus, rwy’n credu, aelod o’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, efallai, yn dweud bod yr holl brofion angenrheidiol ar gyfer y GIG wedi’u cynnal.
“Ond fe wnaethon ni, [Sefydliad] Francis Crick, ddangos, bryd hynny, fod 45% o staff gofal iechyd rheng flaen wedi’u heintio ac nid oeddent yn cael eu profi am fod y capasiti’n annigonol.
“Nawr, nid yw hynny’n ffordd o ennill ffydd y cyhoedd.
“Mae angen didwylledd, tryloywder, craffu, ac arweiniad, a phobl sy’n cymryd cyfrifoldeb am y penderfyniadau, ac mae ei angen nawr.”
Ymateb y Prif Weinidog
Ond dywedodd llefarydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson: “Rydyn ni wedi bod yn rhannu data’n helaeth gydag awdurdodau lleol a thimau iechyd y cyhoedd lleol er mwyn helpu i lywio’r penderfyniadau ar ddelio ag achosion.
“Yn fwy cyffredinol, cyhoeddwyd dogfennau’n rheolaidd mewn perthynas â thrafodaethau Sage [grŵp gwyddonol sy’n cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar argyfyngau] a chofnodion cyfarfodydd.
“Mae’r prif gynghorydd gwyddonol a’r Prif Swyddog Meddygol a’u dirprwyon wedi ateb cwestiynau di-rif yn gyhoeddus ar hyn, gerbron y Senedd ac mewn cyfarfodydd briffio gyda newyddiadurwyr.”