Mae FIFA yn dweud y bydd y Llywydd, Gianni Infantino, yn “parchu” unrhyw benderfyniad a wneir gan ei Bwyllgor Moeseg, hyd yn oed os yw’n dewis ei wahardd dros dro wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i gyfarfodydd rhyngtho a Thwrnai Cyffredinol y Swistir.

Mae erlynydd cyhoeddus ffederal arbennig yn y Swistir wedi agor achosion troseddol yn erbyn Infantino yn ymwneud â chyfarfodydd gyda Michael Lauber, Twrnai Cyffredinol y Swistir, yn 2016 a 2017, gan nodi bod “arwyddion o ymddygiad troseddol” mewn perthynas â nhw.

Mae FIFA, a’r Llywydd, wedi gwadu’n bendant unrhyw gamwedd mewn perthynas â’r cyfarfodydd ac mae’r Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol, Alasdair Bell, wedi dweud ei fod yn “gant y cant hyderus” na fydd Infantino yn cael ei erlyn am y mater.

Nid yw Pwyllgor Moeseg annibynnol corff llywodraethu’r byd wedi dweud eto a fydd yn agor ymchwiliad ai peidio, a dywedodd Bell: “Ni welwn unrhyw sail ffeithiol ar gyfer yr ymchwiliad troseddol hwn. Nid ydym yn gweld unrhyw ymddygiad y gellid ei ddisgrifio yn droseddol.

“Dyna’n dadansoddiad ni o’r sefyllfa, bydd rhaid i’r Pwyllgor Moeseg wneud ei ddadansoddiad ei hun a dod i’w benderfyniad ei hun.”

Parchu penderfyniad

Pan ofynnwyd a fyddai Infantino yn barod i sefyll i lawr tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal, dywedodd Bell: “Dw I’n siŵr y byddai Gianni Infantino yn parchu pa bynnag benderfyniad y mae’r Pwyllgor Moeseg yn ei wneud.”

Dywedodd cyfreithiwr o’r Swistir, Marc Henzelin, fod y trothwy ar gyfer agor ymchwiliad troseddol yn y Swistir yn isel iawn “a bod rheidrwydd ar yr awdurdodau i agor un oni bai ei bod yn amlwg ar unwaith nad oes unrhyw drosedd wedi ei chyflawni”.

Dywedodd Dave Zollinger, cyn-erlynydd yn y wlad, nad oedd esboniadau o’r cyfarfodydd a roddwyd gan Infantino yn “argyhoeddi” ac “felly ni ellir ei eithrio mai bwriad troseddol oedd yno mewn gwirionedd”.

Ond ychwanegodd: “Nid oes ‘smoking gun’, dim ond na ellir eithrio bwriad troseddol.”

Pethau rhyfedd

Dywedodd Alasdair Bell: “Mae rhai pethau rhyfedd wedi digwydd yma […] ac rydym ni, FIFA, i ryw raddau yn collateral damage yn y sefyllfa.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yr achos wedi’i sbarduno gan unigolion a oedd am ddymchwel Infantino, dywedodd Alasdair Bell: “Efallai y byddai’r rhai a wnaeth y cwynion yn hoffi gweld Gianni Infantino yn cael ei ddymchwel.”