Mae achos troseddol yn erbyn Llywydd FIFA Gianni Infantino wedi dechrau yn y Swistir, a hynny am iddo gynnal cyfarfodydd gyda Thwrnai Cyffredinol y wlad yn ôl yn yn 2016 a 2017.

Cafodd yr erlynydd cyhoeddus ffederal arbennig, Stefan Keller, ei benodi fis diwethaf i ymchwilio i gwynion am y cyfarfodydd.

Mae’r erlynydd cyhoeddus bellach wedi dod i’r casgliad bod “arwyddion o weithredoedd troseddol” yn gysylltiedig â’r cyfarfodydd.

Dywed Gianni Infanito a FIFA y byddan nhw’n cydweithredu gyda’r ymchwiliad, ac mai edrych mewn i lygredigaethau hanesyddol oedd bwriad y cyfarfodydd.

“Fel Llywydd FIFA, fy mwriad ers y diwrnod cyntaf, a fy mwriad i nawr, yw helpu’r awdurdodau wrth ymchwilio i gamweddau FIFA,” meddai Gianni Infantino.

“Roedd cyfarfod gyda Thwrnai Cyffredinol y Swistir yn hollol gyfreithlon.

“Felly, rwyf yn gefnogol o’r broses gyfreithiol, ac mae FIFA yn parhau i fod yn barod i gydweithredu’n llawn gydag awdurdodau’r Swistir.”