Mae astudiaeth sydd wedi ei chyhoeddi yn y Dyddiadur Resbiradol Ewropeaidd ddydd Iau (Gorffennaf 30) wedi datgelu nad yw asthma yn achosi mwy o risg o ddatblygu achosion difrifol o’r coronaferiws.
Cafodd yr astudiaeth ei chynnal gan ymchwilwyr yn Hôpital Bicêtre, Assistance Publique-Hôpitaux de Paris ag Université Paris-Saclay.
Bwriad yr ymchwilwyr oedd disgrifio nodweddion clinigol a ffawd cleifion asthma oedd yn yr ysbyty gyda’r coronaferiws yng Ngwanwyn 2020.
Mewn grŵp o 768 o gleifion oedd yn Hôpital Bicêtre rhwng Mawrth 15 a Ebrill 15, roedd 47 (4.8%) yn dioddef o asthma.
Roedd y rhain fel arfer yn ifancach na chleifion coronaferiws oedd heb asthma ac yn fwy tebygol o fod yn ferched.
Doedd yr un o’r cleifion wedi dioddef ymosodiad asthma difrifol na thriniaeth benodol wrth gyrraedd yr ysbyty, gan gadarnhau i’r ymchwilwyr bod y coronaferiws yn llai tebygol i waethygu asthma na heintiau anadlol eraill.
Ymhellach, does dim tystiolaeth i awgrymu bod y cleifion hyn yn dioddef yn fwy o’r coronaferiws nac yn fwy tebygol o farw, meddai’r adroddiad.
Ni chafodd triniaeth asthma ei newid tra’r oedd y cleifion yn yr ysbyty.
Mae astudiaethau pellach yn cael eu cynnal i brofi’r rhagdybiaeth bod triniaeth asthma’n fuddiol i gleifion coronaferiws.