Rhaid i Lywodraeth Cymru brofi ei bod yn medru ymdopi â chlystyrau newydd o covid-19, neu fel arall fe wnawn nhw golli hyder y cyhoedd.
Dyna mae Rhun ap Iorwerth wedi ei rybuddio wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos bod bron i dri chwarter o brofion wedi cymryd mwy na diwrnod i’w prosesu.
Yn ôl yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, rhaid i Lywodraeth Cymru gyflymu a dwysáu eu hymateb, er mwyn cadw ffydd y cyhoedd.
“Rydym ni gyd eisiau rhagor o ryddid fel oedd gennym o’r blaen,” meddai. “Ond wrth godi cyfyngiadau, rhaid hefyd rhoi mecanwaith cadarn ar waith i rwystro rhagor o achosion.
“Dyw’r ffigurau diweddaraf yma ddim yn fy llenwi â hyder. A dydyn nhw ddim yn fy argyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn medru ymateb yn gyflym i glystyrau newydd o achosion.”
Daw ei rybudd hefyd yn sgil naid mewn nifer yr achosion yn Wrecsam. Roedd 54 achos newydd yno’r wythnos ddiwetha’ sef 40% o brofion positif Cymru.
Ffigurau profi
Mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos mai dim ond 26.8% o brofion a gafodd eu prosesu o fewn 24 awr mewn canolfannau profi rhanbarthol yr wythnos ddiwetha’.
Dyma’r ffigur isaf ers i’r Llywodraeth ddechrau cofnodi’r ffigurau yma ym mis Ebrill.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, roedd y canolfannau yma wedi gallu darparu canlyniadau 86.3% o brofion o fewn dau ddiwrnod, a 97.9% o fewn tridiau.
Ymateb y Prif Weinidog i Ffigurau Profi
Ond dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ar Radio Wales Breakfast bod ffigurau mewn rhannau o’r system yn dangos gwelliant:
“Nid yw popeth yn gwella, ond nid yw popeth ddim yn gwella, ‘chwaith! Gwelliant bach oedd yr wythnos ddiwethaf, disgwyliwn weld mwy o welliant – ac yn gynt – wrth symud ymlaen.
Mae’r camau a roddodd Vaughan Gething [Y Gweinidog Iechyd] a minnau ar waith bythefnos yn ôl yn dechrau cael effaith, ac mae camau pellach gennym i barhau i wneud yn siŵr bod profion yn dod yn ôl yn gynt.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cydnabod bod proses brofi gyflym yn bwysig ar gyfer olrhain cysylltiadau ac rydym yn gweithio tuag at gyflawni’r gwaith o fewn 24 awr. Ledled Cymru, Cafodd 84% o bobl a brofwyd mewn canolfannau profi eu canlyniadau mewn un diwrnod a 98% mewn dau ddiwrnod.
“Rydym yn gosod nifer o welliannau ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys prosesu’r holl brofion trwy rwydwaith Lighthouse Lab, cyflymu cludiant y samplau i’r labordai a chyflymu’r amser mae’n ei gymryd i brosesu’r profion yn y labordai.”