Mae Carrie Harper, cynghorydd lleol yn Wrecsam, wedi dweud bod nifer yr achosion Covid-19 yn y sir yn “peri pryder” iddi, ac “fod angen cymryd camau i sicrhau ein bod yn osgoi cyfyngiadau cloi lleol.”

Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion Covid-19 yn Wrecsam eto heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 29), wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau 15 achos arall yn yr ardal.

Golyga hyn fod bron i hanner y 32 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru wedi’u cofnodi yn Wrecsam.

Mae hyd at 80 o achosion eisoes wedi’u cadarnhau yn Ysbyty Maelor yn Wrecsam.

Mae yna hefyd “nifer fechan” o achosion yn Ysbyty’r Waun, Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug ac Ysbyty Glannau Dyfrdwy.

Mae Llŷr Gruffydd, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru hefyd wedi rhannu’r ei bryder am nifer yr achosion mewn ysbytai ac yn y gymuned.

“Mae ffigurau newydd sy’n cadarnhau Covid-19 mewn tri ysbyty cymunedol yn Sir y Fflint a Wrecsam yn peri pryder mawr ac yn ychwanegu i’r cynnydd parhaus mewn achosion Covid-19 yn Ysbyty Maelor”, meddai.

“Ynghyd â’r nifer cynyddol o achosion yn y gymuned yn Wrecsam, mae’n paentio darlun pryderus o haint nad yw o dan reolaeth yn y rhan hon o Gymru.

“Rwyf wedi ysgrifennu yn gofyn am eglurhad brys pellach gan Betsi Cadwaladr yn gofyn a ydyn nhw’n deall pam bod hyn yn broblem gynyddol yn y rhanbarth. ”

Disgwylir y bydd nifer yr achosion yn codi ymhellach

Cafodd dwy ganolfan brofi symudol eu sefydlu yn Wrecsam ddydd Mercher (Gorffennaf 29) i geisio rheoli achosion o Covid-19 yn y gymuned.

Gall pobol gael prawf heb drefnu ymlaen llaw, drwy fynd i un o’r safleoedd rhwng 9 y bore a 6 yr hwyr.

Disgwylir y bydd nifer yr achosion yn codi ymhellach wrth i fwy o brofion gael eu prosesu.

Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Ar hyn o bryd, mae gennym rhwng 70 a 80 achos wedi ei gadarnhau o Covid-19 yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

“Mae gennym hefyd nifer fechan o hyd o achosion wedi eu cadarnhau yn Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy, Ysbyty’r Waun ac Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug.

“Oherwydd y perygl o adnabod cleifion, ni fyddwn yn rhoi niferoedd penodol ar gyfer y tri safle hyn.

“Mae nifer o fesurau wedi eu rhoi ar waith i helpu’r ysbytai cymuned hyn reoli risg Covid-19.

“Fel rhan o agwedd ragweithiol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, rydym wedi dechrau proses o sgrinio pob claf ar wardiau ble mae’n bosibl, neu ble rydym wedi cael cleifion sydd wedi profi’n bositif am COVID-19.

“Mae hyn yn ychwanegol i sgrinio pob claf sy’n dod i’n hysbytai.

“Mae pob claf sy’n profi’n bositif yn cael eu hynysu’n briodol ac mae’r holl fesurau atal a rheoli haint yn eu lle.”

‘Ble mae Vaughan Gething?’

Mae Andrew RT Davies, Gweinidog Cysgodol Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, hefyd wedi codi pryderon am y sefyllfa yn Wrecsam ac yn cwestiynu “absenoldeb” Vaughan Gething.

“Mae’n amlwg bod pryder yn cynyddu ymysg y cyhoedd yn Wrecsam gydag adroddiadau bod niferoedd sylweddol yn ymweld â chanolfannau profi symudol.

“Mae’r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, ond mae’r gweinidog iechyd wedi bod yn absennol yn hyn oll.

“Ble mae e’?

“Ar adegau o argyfwng, mae angen i’r cyhoedd glywed gan y rhai yn y llywodraeth a dylai Vaughan Gething fod yn arwain yr ymateb gydag achos mor sylweddol yn digwydd yn y rhanbarth ar hyn o bryd.

“Mae’n ddealladwy bod pobol leol yn poeni ac mae’r pryder hwn yn cael ei gymhlethu gan ddiffyg cyfathrebu ac arweinyddiaeth weladwy gan Lywodraeth Lafur Cymru ym Mae Caerdydd.

“Mae angen i hyn gael ei gywiro ar unwaith er mwyn lleihau ymlediad a diogelu’r bobol.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i’r sefyllfa, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Ohebydd Democratiaeth Leol Wrecsam a Sir y Fflint: “Ar hyn o bryd rydym yn gweld nifer fwy o achosion COVID-19 yn Wrecsam nag mewn rhannau eraill o Gymru.

“Bydd camau i ffrwyno unrhyw ledaeniad bob amser yn digwydd ar y lefel fwyaf lleol posibl a byddai unrhyw gyfarwyddyd cenedlaethol bob amser yn ddewis olaf.

“Mae timau rheoli achosion, sy’n cynnwys yr holl bartneriaid lleol allweddol, yn cynnal gwaith olrhain cyswllt a mesurau atal a rheoli heintiau.

“Mae profion ychwanegol yn cael eu cydlynu ar lefel leol hefyd. Rydym yn monitro’r sefyllfa a byddwn yn cymryd camau ychwanegol os bydd angen.”

Darllenwch fwy am y sefyllfa yn Wrecsam yn Golwg ac ar Golwg+.