Wrth ddiweddaru’r genedl am sefyllfa’r coronafeirws b’nawn dydd Mawrth, dywedodd Dr Chris Williams o gorff Iechyd Cyhoeddus Cymru ei fod yn gobeithio “cael gwell dealltwriaeth” o ymlediad yr haint yn Wrecsam ar ôl galw’r fyddin i mewn i gynnal profion.

Mae Bwrdd Iechyd y Gogledd wedi cadarnhau bod “rhwng 70 ac 80 o achosion Covid-19 sydd wedi eu cadarnhau yn Ysbyty Wrecsam Maelor”.

Daeth y wybodaeth mewn ymateb i gwestiynau Golwg yn sgîl sgwrs gydag un o gynghorwyr y dref.