Mae Bro360 yn gynllun gan gwmni Golwg i greu rhwydwaith o wefannau bro. Mae’r tîm wedi cydweithio â chymunedau yn Arfon a Cheredigion i greu chwech o wefannau bro – y lle ar y we i’r lleisiau lleol. Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol leol am eu milltir sgwâr yr wythnos ddiwethaf…

COFI 19

Mae bandiau ardal Caernarfon wedi bod yn brysur yn ystod yr wythnosau diwethaf yn creu albwm COFI 19. Hoffi’r enw? Pasta Hull sydd wedi trefnu’r albwm, sydd yn cynnwys 22 o ganeuon gan 14 band lleol. Ewch i Caernarfon360 er mwyn gwrando ar ganeuon y Cofis yn rhad ac am ddim…

O am gael troi’r cloc yn ôl…

Mae colli aelod o’r teulu yn brofiad erchyll ac anodd bob tro, ond mae profi hynny yn ystod pandemig yn ychwanegu cymhlethdodau. Mewn darn personol iawn mae Elin Hâf Williams yn trafod sut brofiad oedd hyn, a sut beth oedd trefnu a mynychu angladd o dan yr holl reolau newydd.

Darllen mwy: BroAber360.cymru

Gwydion a’i gân

Mae Gwydion Rhys, y cerddor ifanc o Ddyffryn Ogwen, wedi cyfansoddi cân newydd yn ystod y cyfnod clo. Seiliwyd y gân ar hanes Nan Davies, gwraig o Langennech yn wreiddiol, a ymfudodd i Ganada gyda’i theulu ym 1910. Comisiynwyd y darn gan y Llyfrgell Genedlaethol, a gallwch wylio’r perfformiad ar Ogwen360.