Mae gweithfeydd mwyn canolbarth Cymru yn “haeddu” cael bod yn destun amgueddfa genedlaethol – yn union fel y mae diwydiant glo Cymoedd y de a’r diwydiant llechi yn y gogledd.

Dyna farn cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru ac Ymddiriedolaeth Mwynfeydd Cambria, sydd newydd gyhoeddi llyfr am y pwnc ac yn angerddol dros achub safleoedd yr hen weithfeydd mwyn rhag cael eu dinistrio.

Yn ôl Ioan Lord, hanesydd 21 oed o Gwm Rheidol ger Aberystwyth, mae rhannau o hen safleoedd y gweithfeydd mwyn yn cael eu colli bron â bod bob mis i ddatblygiadau coedwigaeth, amaeth neu dai.

“Dw i eisiau codi diddordeb yn lleol ac yn genedlaethol ynglŷn â’r hanes coll yma,” meddai Ioan Lord, “a phrofi ei fod yr un mor bwysig â’r pyllau glo yn y de a’r chwareli llechi yn y gogledd. Fe ddylen ni drio cadw’r olion hyn yn hytrach na’u dinistrio nhw.”

Mae’r llanc wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant mwyngloddio yn y canolbarth, trwy ail-agor yr hen weithfeydd tanddaearol a chofnodi popeth y mae ef a’i gyfeillion yn eu canfod. Mae ganddo rhwng 200 a 250 o arteffactau hyd yma.

“Yr eitem hynaf sy gen i yw rhaw bren Rufeinig o un o’r gweithfeydd mwyn o gwmpas Talybont, y ffeindion ni’r llynedd,” meddai. “Dw i’n casglu’r holl arteffactau hyn gyda’r gobaith o sefydlu Amgueddfa Mwyngloddio Canolbarth Cymru ryw bryd yn y dyfodol.

“Mae gyda ni Amgueddfa Genedlaethol Lechi yn Llanberis; mae gyda ni Amgueddfa Genedlaethol Glo yn y Big Pit, ond does yna ddim hyd yn oed amgueddfa leol nawr ar fwyngloddio yng nghanolbarth Cymru.

“Pam? Wel, yn bennaf y diffyg ymwybyddiaeth yma. Nid dim ond hynny, ond dyw pobol ddim yn sylweddoli pa mor bwysig yw’r diwydiant ni’n sôn amdano yn y fan hyn. Dyma un o’r diwydiannau cloddio metal hynaf ym Mhrydain, yn dyddio nôl dros 4,500 o flynyddoedd yn yr ardal yma. Mae yn haeddu cael Amgueddfa Genedlaethol cyn gymaint â Big Pit a Llanberis.”

Nid yw’n siwr lle fyddai orau ar gyfer yr amgeuddfa – pr’un ai ar safle’r hen waith mwyn y mae’r Ymddiriedolaeth Cambria yn berchen arno yng Nghwmystwyth, a fyddai’n agor y posibilrwydd o ganiatáu i ymwelwyr fynd o dan ddaear, neu ond cael amgueddfa i’r arteffactau mewn lleoliad trefol. Ond mae yn credu bod amgueddfa “yn berffaith bosib” er nad am ddigwydd am “dipyn o amser” eto.

“Yn y cyfamser, rwy’n mynd i gadw casglu eitemau, eu cadw nhw’n saff yn y tŷ neu le bynnag y mae gen i le ar eu cyfer nhw fel eu bod nhw’n saff. Yna, os taw naill ai 10 mlynedd neu 30 mlynedd, dyna yw’r lle dw i’n bwriadu cyrraedd yn y pen draw, hyd yn oed os yw hynna’n golygu talu ar ei gyfer fy hunan.”

Cyfweliad arbennig gydag Ioan Lord am ei lyfr a’i waith ar dudalen 24.