Roedd pobl dda Radio Cymru’n trydar yn llawn cyffro am eu darllediadau cyntaf o’u cartref newydd yng nghanol dinas Caerdydd dros y penwythnos diwethaf.
Prin y bu’r ymateb. Dyw hi ddim wir yn bwysig i’r gynulleidfa o ble mae’r rhaglenni’n dod, mewn gwirionedd, na’dy? Fe fethais i’n lân â rhannu yn eu cynnwrf, beth bynnag.
Ond ymhlith y trydariadau, roedd un oedd yn haeddu mwy o sylw na’r lleill. A hon oedd hi gan olygydd y gwasanaeth, Rhuanedd Richards…