Yr unig sŵn a glywyd yng Nghwm Gwendraeth wythnos ddiwetha’ oedd murmur y coed, a sŵn y chwyn yn chwythu lawr o’r Tymbl, wrth gwrs. Roedd pob copa walltog wedi ymadael i faes carafanau nepell o Drefdraeth, neu Pontyberem-on-Sea fel mae e’n cael ei alw erbyn hyn. O gofio bod gen i alergedd ddofn at garafanio, y syndod yw, mi oedd hi’n wythnos hynod bleserus, a Chymreictod naturiol y maes carfanau, rhyw filltir tu allan i’r dref, yn wrthgyferbyniad llwyr i’r profiad o fod yn nhref Trefdra