Mae gan weinidogion yn Llywodraeth Boris Johnson rwydd hynt i dorri rheolau ac ymddwyn yn anonest, a’r “papurau tabloid sy’n frwd o blaid Brexit” sydd i’w beio am hynny.
Dyna farn yr Athro Leighton Andrews, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a chyn-Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru.
Yr wythnos hon mae Boris Johnson yn dathlu ei flwyddyn gyntaf yn Brif Weinidog Llywodraeth Prydain, ac mae hi hefyd yn chwarter canrif ers cyhoeddi adroddiad Nolan, sy’n ymwneud â safonau mewn bywyd cyhoeddus.