Ar ochr arall y ddwy ffin â Lloegr, mae’r dadlau mwya’ brwd yn digwydd tros ddyfodol y drefn lywodraethu… mae Cymru a’r Alban ar wahanol le ar yr un sbectrwm. Ac oherwydd fod yr Alban wedi cael un refferendwm eisoes, yn groes i’r disgwyl mae Theo Davies-Lewis yn credu efallai mai yng Nghymru y daw’r symudiad mawr nesa’…

“Er ein bod rhai blynyddoedd i ffwrdd o gael cefnogaeth eang i annibyniaeth, mae’r misoedd diwetha’ wedi dangos ei bod yn debyg y byddwn yn cyrraedd yno. Yn y degawd nesa’ mae’n bosib y bydd gan Gymru well cyfle na’r Alban i ofyn y cwestiwn am ei dyfodol ac felly i benderfynu ar dynged yr Undeb. Os felly, bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ei gael ei hun mewn lle anodd: ar adeg heddwch, mae’n wynebu rhyfel ar ddau ffrynt.” (nation.cymru)

Rhan arall o’r drafodaeth ydi honno rhwng annibyniaeth a ffederaliaeth, a rhai sydd rhywle yn y canol yn gweld yr ail yn ateb posib i wella’r status quo. Ond nid rhai fel John Dixon, cyn-Gadeirydd Plaid Cymru…

“Mae datganolwyr Llafur, a’r Dem Rhydd hefyd, yn gyson yn tynnu tylwythen deg ffederaliaeth o’i chwpwrdd a chwythu’r llwch oddi arni. Ond, fel y tylwyth teg yng ngwaelod yr ardd, creadur cwbl ddychmygol yw hi. Ar wahân i’r diffyg cydbwysedd rhwng Lloegr a’r cenhedloedd eraill, byddai ateb ffederal yn gofyn am gydnabyddiaeth ffurfiol bod grym y gwahanol seneddau’n deillio o’r bobol y maen nhw’n eu cynrychioli, nid o’r goron-yn-y-senedd. Mewn gwirionedd, un ffordd neu’r llall, mae’n gofyn am gyfansoddiad ysgrifenedig. Mae unrhywun o fewn Llafur ‘Cymru’ neu’r Dem Rhydd sy’n credu y byddai unrhyw lywodraeth bosib yn y Deyrnas Unedig yn mynd i ildio hynny, eisoes ymhlith y tylwyth teg.”

Mae yna ddadl fwy ffyrnig yn digwydd yn yr Alban, ym mhen eitha’r sbectrwm – dadl ynglŷn â pha mor galed i wthio am annibyniaeth a’r ffrae bersonol rhwng yr arweinydd a’r cyn-arweinydd, Nicola Sturgeon ac Alex Salmond, yn bwydo hynny. Un o gefnogwyr Alex Salmond ydi Stuart Campbell o wefan wingsoverscotland.com

“Fel llawer iawn o bobol, gan gynnwys rhai o’i chyn-ASau a nifer o rai presennol hefyd, r’yn ni’n casáu’r llwybr y mae arweinyddiaeth gyfredol yr SNP yn ei ddilyn – tuag at wladwriaeth nawddoglyd, awdurdodol, sy’n gwadu hanes ac yn caniatáu treisio, lle mae rhyddid barn yn drosedd a’r ymgyrch ystyrlon am annibyniaeth wedi cael ei gollwng yn agored o blaid atgyfnerthu pŵer a statws yr arweinyddiaeth ac ASau cyfforddus San Steffan.”

Mewn man hollol wahanol ar sbectrwm datganoli, mae Helen Cunningham o Sefydliad Bevan eisiau gweld cymunedau’n cael cyfle i fynd i’r afael â phroblemau economaidd y pandemig…

“Mae creadigrwydd a gallu llawer o gymunedau i ymateb yn cryfhau’r achos am fwy o gyfranogiad cymunedol wrth gynllunio dyfodol ein canolfannau a’n stryd fawr. Mae’r cyfle ‘yn y cyfamser’ i wneud defnydd o siopau gwag, trwy ddulliau mwy hyblyg a chreadigol, yn rhoi llwyfan perffaith i roi cynnig ar bethau heb ymrwymo iddyn nhw am y 25 mlynedd nesa’. Mae’r syniadau a’r dychymyg yno ac yn gallu helpu i greu’r math newydd o stryd fawr sydd ei angen wedi Covid.”