Roedd yna rywbeth yn chwithig wrth glywed rhai o weithwyr y sector cyhoeddus yn cael codiad cyflog a hynny’n cael ei gysylltu’n uniongyrchol efo’r pandemig.

Nid am nad oedd rhai ohonyn nhw’n haeddu’r cynnydd – yn enwedig y nyrsys, sydd ar ganol cynllun tair blynedd i wella cyflogau – ond am fod yna un bwlch amlwg … gweithwyr gofal.