Mae cynghorwyr ar Gyngor Bwrdeistrefol Wrecsam wedi gwrthod caniatâd cynllunio i godi 600 o dai ar gyrion y dref, a hynny yn groes i argymhellion Prif Swyddog Cynllunio’r cyngor.

Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio nos Lun doedd yna ddim un cynghorydd o blaid y datblygiad gan Barratt Homes a Bloor Homes ar dir glas ger Ffordd Cefn, sydd rhwng y clwb rygbi a’r clwb golff.

Pleidleisiodd 17 o gynghorwyr yn erbyn y cais cynllunio gydag un cynghorydd Ceidwadol yn ymatal rhag pleidleisio o gwbl.