A hithau’n dair blynedd ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu targed ‘Cymraeg 2050’, mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio dogfen newydd i ddiweddaru’r drafodaeth a “sicrhau bod pawb ar y bws”.

Yn 2017 wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif hon, a hyd yma mae pethau’n edrych yn eitha’ addawol yn ôl rhai ystadegau.