Pam bod merch o Moscow wedi penderfynu dysgu siarad Cymraeg?!
Gwnes i benderfynu dysgu Cymraeg ar ôl clywed enw’r pentref Llanfair PG. Meddyliais fod yr enw’n hyfryd ac yn wirioneddol ddiddorol. Yn ddirgel. Roedd rhywbeth deniadol yn enw’r pentref, felly, roeddwn i eisiau medru dweud yr enw. Ac (wrth gwrs) meddyliais i y byddai hi’n hwyl i allu ynganu unrhyw beth mor galed ac anarferol.
I mi, mae’r iaith Gymraeg fel enw’r pentref: dirgel, deniadol, diddorol. Dw i’n hoff iawn o sut mae hi’n cael ei hysgrifennu a’i siarad.
Mae’n iaith hardd – a’i harddwch yw fy mhrif reswm tros ei dysgu hi.
Pa ieithoedd eraill sy’ ganddo chi?
Ar wahân i Rwsieg, Saesneg a Chymraeg, dw i’n gallu siarad Almaeneg.
Beth mae eich teulu a’ch ffrindiau yn feddwl o’r ffaith eich bod yn siarad Cymraeg?
Ar y dechrau, roedd fy nheulu yn meddwl fy mod i wedi bod yn gwastraffu fy amser.
Maen nhw yn fy nghefnogi i rŵan ac yn ffeindio’r ffaith mod i’n siarad Cymraeg yn… neis.
Mae fy ffrindiau wedi fy nghefnogi i bob amser. Mae rhai ohonyn nhw’n gofyn llawer o gwestiynau am Gymru a’r iaith Gymraeg, ac mae rhai wedi hyd yn oed ceisio dysgu Cymraeg!
Ar ben hynny, mae rhai o fy nghyd-ddisgyblion a mi’n trïo trefnu dosbarthiadau Cymraeg gyda’r nos yn ein hysgol ni. Fe hoffai 20 ddysgu siarad Cymraeg. Mae’r ysgol yn chwilio am yr athro rŵan – ond dydyn nhw ddim wedi llwyddo i ffeindio unrhyw un ym Moscow eto.
A chithau ond yn dysgu Cymraeg ers naw mis, mae eich Cymraeg ysgrifenedig yn anhygoel o dda… sut ydach chi wedi llwyddo cystal?!
Yn gyntaf – diolch yn fawr! Dw i’n ymarfer ysgrifennu yn rheolaidd – dyna ydy fy hoff beth ym mhob iaith. Dw i’n ysgrifennu testunau am bethau amrywiol yn eithaf aml. Dw i’n cadw dyddiadur yn y Gymraeg hefyd, felly, gallaf i ddefnyddio tipyn bach o Gymraeg bob dydd. Dydy hi ddim yn galed iawn i mi i ysgrifennu achos dw i’n gwybod eithaf tipyn o ramadeg (gobeithio).
Hefyd, rydw i’n defnyddio cyrsiau Duolingo a Teach Yourself Welsh, ac yn ymarfer siarad ar gwrs ar-lein gyda ‘Dysgu Cymraeg Sir Benfro’. A dw i’n gwylio rhaglenni teledu ar S4C. Dw i’n hoff iawn o’r rhaglen blant Amser Maith Maith Yn Ôl.
Ydach chi’n ystyried dod yma i’n gweld ni yng Nghymru?
Dw i am fynd i Gymru un diwrnod. Ond does dim syniad gen i pryd byddaf i’n gallu mynd. Os ga i freuddwydio am fy nhaith ddelfrydol, byddwn i’n dechrau yn Llanfairpwll cyn ymweld â Sir Benfro a Chaerdydd.
Lle’r ydych chi’n derbyn eich addysg?
Rydw i’n ddisgybl mewn ‘lyceum’ i bobl 15 i 18 oed, sef ysgol o fewn yr Higher School of Economics, un o brifysgolion gorau Rwsia.
Rydw i mewn cyfadran Gwyddorau Naturiol ac yn astudio Bioleg yn bennaf.
Beth hoffech chi astudio yn y dyfodol?
Roeddwn i’n meddwl byddwn i’n astudio Seicoleg neu Biocemeg, ond mae pethau fel arall ar hyn o bryd. Ar ôl i mi ddechrau gweithio ar lyfr gramadeg, roeddwn i’n meddwl am astudio Astudiaethau Celtaidd neu Ieithyddiaeth. Dw i’n edrych ar fynd i astudio Astudiaethau Celtaidd ym Moscow, yng Nghymru neu yn yr Almaen rŵan. Dyna beth liciwn i wneud – ond dydy hi ddim yn hawdd newid popeth ar hyn o bryd.
Sut le yw Moscow?
Dinas wych sy’n gyfeillgar, modern, prysur, cyflym a jyst… neis! Mae gan y ddinas hanes hir ac anhygoel ac rydw i’n byw yma ers naw mlynedd.
Ffaith hwyl – mae poblogaeth Moscow bedair gwaith maint poblogaeth Cymru! Croeso i Moscow!
Yn lle ym mhrifddinas Rwsia ydach chi’n byw?
Dw i’n byw yn yr ardal dawel werdd, ger Serebryany Bor, sef y warchodfa natur fawr.
Dw i’n hoff iawn o gaffi fast food Teremoc – maen nhw’n gwerthu crempogau Rwsiaidd yno. Blasus iawn!
Beth yw eich ofn mwya’?
Dw i’n casáu pryfed. Mae ofn arnaf i y bydd rhyw bryf yn ymgripio mewn i fy nghlust i.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Dim byd.
Beth sy’n eich gwylltio?
Pobl sy’n torri addewidion ac yn cyrraedd yn hwyr.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Liciwn i fynd i fwyta pitsa gyda fy ffrindiau gorau.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Dw i’n credu mai “fel hyn” yn Gymraeg, “like” yn Saesneg a “типа” (fel hyn) yn Rwsieg.
Beth yw’r gwyliau gorau i chi fwynhau?
Dw i’n licio’r awyrgylch o gwmpas y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn y dre.
Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?
Gig pync roc.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Y cyfweliad hwn!! Dw i’n ysgrifennu’r atebion am bump o’r gloch yn y bore… dw i’n darllen llyfrau neu ddysgu ieithoedd yn hwyr y nos hefyd.
Beth yw eich hoff ddiod?
Te neu cola.
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Dw i’n darllen An Introduction to the Celtic Languages rŵan – mae’n eithaf difyr!
Llyfrau Terry Pratchett yw’r rhai difyrraf i mi eu darllen yn fy mywyd.
Beth yw eich hoff air?
“Llanfairpwllgwyngyll…” a “bresych”.