Cafodd y grŵp Facebook ‘Clic Clic i’r Corona’ ei sefydlu ddechrau mis Ebrill, gan y ddwy ffotograffydd Sioned Birchall a Betsan Haf Evans.
Y bwriad oedd denu pobl oedd â diddordeb mewn ffotograffiaeth ac eisiau dysgu mwy. Erbyn hyn mae ganddyn nhw dros 500 o aelodau, ac mae mwy na 3,000 o luniau wedi eu hanfon i mewn.
Mae Sioned Birchall a Betsan Haf Evans yn gosod her wythnosol i’r aelodau ar thema benodol, ac maen nhw wedyn yn dewis enillydd ac yn rhoi adborth i’r rhai oedd yn haeddu clod.
Yma, mae’r ddwy yn sôn pam eu bod nhw wedi sefydlu’r grŵp, ac mae Rhian Cadwaladr, aelod brwd o’r grŵp, yn dweud beth sydd wedi ei hysbrydoli hi ers ymuno â ‘Clic Clic i’r Corona’…
Mae Sioned Birchall yn rhedeg cwmni Camera Sioned ac yn byw yng Nghaerdydd…
Dw i wedi bod yn hunangyflogedig ers pedair blynedd. Dw i wedi bod mor ffodus achos dw i erioed wedi bod yn brin o waith ond, yn sydyn, roedd y tap wedi troi i ffwrdd [yn y cyfnod corona] ac roedd o’n sioc. Y gwanwyn a’r haf ydy’r adegau mwya’ prysur i fi fel arfer efo priodasau, ac roedd hyn wedi llorio fi.
Ro’n i’n gweld artistiaid eraill yn cael ysbrydoliaeth o’r sefyllfa, ond doedd gen i ddim awydd mynd allan i dynnu lluniau. Ro’n i’n meddwl: ‘Os dw i ddim yn teimlo fel creu, efallai fyswn i’n gallu helpu eraill i fod yn greadigol’. Dw i wedi cwrdd â Betsan sawl gwaith o’r blaen, ac ar ddechrau’r clo buon ni’n trafod y syniad o wneud rhyw fath o fforwm. Ro’n i’n teimlo bod yna lot o bethau ar gael yn y cyfrwng Saesneg, ond dim cymaint o ran arlwy Cymraeg bryd hynny. Y syniad oedd herio pobl i wneud rhywbeth yn ystod yr wythnos, a dim ond unwaith yr wythnos fel bod o ddim yn ormod. Roedd Betsan wedi cysylltu â dweud: ‘Be’ am greu grŵp ar Facebook?’ A wnes i ofyn os oedd hi eisiau gwneud o efo fi. Mae’r ddwy ohonon ni’n cymryd tro i osod heriau wythnosol a beirniadu’r lluniau, ac mae’n gweithio’n reit dwt.
Y gobaith yn yr Hydref ydy cynnal cyfres o sesiynau i roi mwy o hyfforddiant i aelodau, a bod pobl yn talu am y cyrsiau. Dw i’n teimlo ein bod ni wedi gweithio’n galed i greu grŵp o bobl efo diddordeb, ac mae’n biti gweld y pethau yma’n cael eu rhoi o’r neilltu.
Mae’r adborth wedi bod mor neis, a phobl yn dweud cymaint maen nhw wedi mwynhau. Mae sawl un efo cyfrifoldebau, fel plant ifanc, ac yn dweud bod hwn yn rhywbeth jest iddyn nhw. Mae llawer hefyd wedi dweud eu bod nhw wedi mynd ati i brynu camera, a’i fod o wedi helpu nhw i fynd allan i wneud ymarfer corff. Mae’r aelodau yn dod o bob rhan o Gymru. Mae gen ti rai sy’n amlwg yn hobbyists go-iawn a rhai eraill, efallai, lle dydy’r llun ddim yr ansawdd gorau ond mae’r syniad jest mor wych. Ti’n gweld ambell lun a jest yn mynd “Waw!”
Celf Calon yw busnes y ffotograffydd Betsan Haf Evans, sy’n byw ym Mhontarddulais ger Abertawe…
Ar ddechrau’r locdown ro’n i wedi colli’r hwyl i wneud unrhyw beth creadigol, ond trwy wneud y grŵp, dw i wedi dechrau flogio ac felly wedi dysgu sgiliau fideo newydd. Hefyd mae cael yr ymateb gan bobl yn y grŵp yn dweud ei fod o’n fodd i fyw, a’u bod yn
mwynhau, wedi bod yn wych.
Wrth osod yr her wythnosol ro’n i’n cael ysbrydoliaeth o’r cyfnod ac yn trio gosod rhai fyddai’n gwneud lles i bobl hefyd drwy fynd mas i dynnu lluniau, fel y thema ‘natur’, ond ar yr un pryd cadw nhw’n eitha’ syml. Beth oeddwn i’n dueddol o wneud wedyn oedd rhoi adborth adeiladol i’r lluniau oedd yn haeddu clod.
Mae wedi bod yn neis cydweithio efo Sioned. Mae’r locdown wedi tanlinellu pa mor unig mae bod yn ffotograffydd yn gallu bod, ac mae wedi bod yn neis gallu siarad efo rhywun sy’n gwybod yn union fel mae’n teimlo.
I fi, mae’r prosiect wedi bod yn ddyddiadur o luniau o’r cyfnod hefyd. Roedd cwpl o’r heriau fel yr un ‘hunanbortread’ yn dda, roedd yn ddiddorol gweld fel oedd gwallt pobl wedi tyfu!
“Ysu i ddeall mwy am y grefft”
Mae’r awdur a’r actor Rhian Cadwaladr wedi cyfrannu nifer o luniau i ‘Clic Clic i’r Corona’. Mae hi’n byw yn Rhosgadfan ger Caernarfon…
Dw i wedi bod â diddordeb mewn tynnu lluniau erioed, ond doeddwn i ddim yn deall unrhyw beth am y dechneg o dynnu lluniau na sut i ddefnyddio camera go-iawn – ond yn ysu i ddeall mwy am y grefft.
Ro’n i hefyd yn licio’r elfen o her – roedd yn gwneud i mi edrych ar bethau yn wahanol, a chael yr anogaeth a’r rhyddid i fod yn greadigol ac i ddefnyddio’r dychymyg.
Wnes i wirioneddol fwynhau bob un o’r heriau ond, rhaid i mi ddeud, roedd yr un ‘hunan bortread’ yn ddychryn ar y cychwyn gan fod yn gâs gen i dynnu llun fi fy hun – roies i sgarff dros fy wyneb yn y llun cynta’!
Ond wrth ddechrau bod yn greadigol, fe ddaeth yr actores ynddo’i allan ac mi wnes i drïo dweud stori drwy’r lluniau wedyn.
Efo’r her ‘Bwyd’ ro’n i isho llun fasa’n deud stori ac yn apelio at yr emosiwn. Mae gen i a fy mhartner saith o blant rhyngon ni, rhwng 17 a 32 oed, a does dim yn well gen i na chael nhw draw i’w bwydo nhw.
Ein bwrdd bwyd ni sy’ yn y llun, a thair neu bedair gwaith yr wythnos mae o’n llawn, ond tydi hynna ddim wedi bod yn bosib yn ystod y clo ac mae fy hiraeth am y plant wedi bod yn fawr.
Mi ro’n i isho cyfleu’r hiraeth yna. Dw i wedi twyllo mewn ffordd achos dw i wedi gosod y bwrdd i un, er dydw i ddim yn byw ar ben fy hun. Ond roedd gwneud hynny yn f’atgoffa fi o fy unigrwydd pan o’n i’n byw ar ben fy hun a’r plant i gyd wedi gadael cartref – unigrwydd mae llawer wedi ei deimlo yn y cyfnod anodd yma dw i’n siŵr. Dw i wedi dewis tynnu llun o ginio dydd Sul achos pan o’n i ar ben fy hun mi fyddwn i’n gwneud cinio iawn i mi fy hun bob dydd Sul. Mi fyddai Mam yn gofyn i mi pam o’n i’n trafferthu, a fy ateb i oedd “pam ddim?”
Dw i wedi dysgu lot – yn ôl Sioned a Betsan mae gen i lygad dda, a dw i wedi gwirioni ar glywed hyn. Mae hyn wedi rhoi hyder i mi gymryd yr hobi o dynnu lluniau o ddifri. Dw i wedi dysgu sgiliau elfennol, ond mae o hefyd wedi agor fy llygaid i edrych ar y byd o nghwmpas yn wahanol – i sylwi mwy. Ar ôl yr heriau dw i’n gweld effeithiau golau, patrymau, harddwch natur, a rhyfeddod adeiladau ym mhob man! A gan nad ydan ni’n medru mynd ar wyliau eleni dw i wedi tretio fy hun i gamera go-iawn. Dw i’n tynnu lluniau drwy’r amser rŵan. Dw i’n amau fod fy mhartner yn dechrau cael llond bol achos pan rydan ni’n mynd am dro dw i isho stopio i dynnu lluniau bob munud. Ond mae o’n amyneddgar iawn efo fi – mi gododd am 4:30 efo fi un bore am fy mod i isho mynd i ben Moel Smytho i dynnu llun y wawr. Er mod i wedi tynnu cannoedd ar gannoedd o luniau o fachlud bendigedig o Rosgadfan, dw i erioed wedi tynnu llun y wawr.
Hefyd, pan rydach chi’n canolbwyntio ar y byd o’ch cwmpas – yn agor eich llygaid o ddifri ac yn chwilio am y lluniau gorau, lluniau sy’n dweud stori, mae popeth arall yn mynd allan o’r meddwl – a rydach chi’n gallu anghofio am y byd a’i bryderon. Hynny yw, os nad ydach chi’n chwilio am luniau i fynegi’r byd a’i bryderon!
Aelod o’r arall o’r grŵp yw Betsan Wyn Morris sy’n byw yng Nghaerdydd…
Roedd dod ar draws y grŵp Clic Clic yn fendith yng nghanol y cloi mawr, yng nghanol y barnu, y dadlau, a phethau eraill negyddol sy’n dod gyda Facebook. Mae’n gyfle i feddwl tu allan i’r bocs, i sylwi ar y pethau bychain, i ddefnyddio’r meddwl a bod yn greadigol, ac i weld sut mae eraill yn dadansoddi thema a chael adborth adeiladol gan Betsan a Sioned, a rhannu diddordeb gydag aelodau eraill y grŵp. Diolch yn fawr iddyn nhw amdano.