I nodi blwyddyn gyntaf Boris Johnson yn ben bandit dyma Bwrlwm yn bwrw golwg am yn ôl.

Daeth yn Brif Weinidog ar 24 Gorffennaf 2019, ac mae ei ddeuddeg mis cyntaf wrth y llyw wedi bod yn hynod ddadleuol ac anarferol.

Ar ôl addo gwireddu Brexit “doed a ddelo” erbyn Hydref 31, doedd dim golwg o hynny ac erbyn diwedd yr Haf roedd wedi penderfynu prorogio’r senedd.