Mae cynghorwyr sir yn Wrecsam wedi mynd yn groes i argymhellion eu prif swyddog cynllunio gan wrthod yn unfrydol y cynnig ar gyfer datblygiad 600 o dai ger y dref.

Barratt Homes a Bloor Homes oedd i fod i godi’r tai ger Ffordd Cefn, ond fe bleidleisiodd 17 o gynghorwyr i wrthod y cais cynllunio ac fe wnaeth un cynghorydd atal ei bleidlais.

Daw canlyniad y bleidlais yn dilyn cryn wrthwynebiad i’r datblygiad, gyda phryderon y byddai’n denu mwy o bobol i’r ardal gan roi pwysau ar wasanaethau lleol.

Y bwriad oedd codi 7,700 o dai erbyn 2028 er mwyn ymateb i’r galw cynyddol honedig – roedd y cynllun yn darogan cynnydd o 17,000 yn y boblogaeth erbyn 2028.

Ond cynnydd o 22 person y flwyddyn sydd wedi bod ers 2013, serch hynny.

Mae pryderon pellach nad yw’r Cynllun Datblygu Lleol yn diwallu anghenion pobol leol, gyda dro 50% yn llai o dai fforddiadwy yn yr ardal ers cychwyn cyfnod y cynllun.

Roedd cynghorwyr hefyd wedi codi pryderon fod digon o dai newydd yn cael eu codi yn yr ardal eisoes.

Gallwh ddarllen mwy am y stori hon ar Golwg+.