Mae’r cyfnod clo wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, a dyw’n Prif Weinidog ddim yn eithriad mae’n debyg.

Yn siarad â radio Heart Wales brynhawn ddoe datgelodd Mark Drakeford ei fod wedi treulio’r argyfwng yn byw mewn cwt yng ngwaelod ei ardd.

Yn ystod y cyfweliad mi eglurodd ei fod wedi bod yn gwneud hynny er mwyn diogelu ei fam a’i fam yng nghyfraith.

“Dw i allan yn cwrdd â phobol trwy’r amser – dyna yw natur fy swydd,” meddai. “Felly heb os dw i’n risg iddyn nhw.

“Maen nhw’n byw yn y tŷ. Dw i’n byw mewn cwt yng ngwaelod yr ardd. Ac rydym yn ymdopi’r gorau y gallwn ni fel’na.”

Eglurodd bod y cwt yn “fach iawn”, a’i fod wedi’i godi cyn yr argyfwng coronafeirws. Er nad yw’n fawr mae’n dweud ei fod yn “lwcus am fod digon yno i mi fedru cadw i fynd.”

Codi cyfyngiad

Bythefnos yn ôl mi gyhoeddodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, y byddai pobol fregus yn medru rhoi’r gorau i ‘hunanynysu gwarchodol’ (shielding) o Awst 16 ymlaen.

Mae 130,000 o bobol yng Nghymru wedi’u cynghori i hunan-ynysu yn y fath modd, ac yn eu plith mae pobol â chanser neu glefyd ar y galon.

Yn siarad ar y rhaglen radio, dywedodd Mark Drakeford y byddai’n parhau i fod yn “ofalus” pan fydd y cyfyngiad yma’n cael ei lacio.

“I bobol â chyflyrau meddygol difrifol mae coronafeirws yn brofiad difrifol iawn a ni ddylid cymryd risgiau ag ef,” meddai.