Mae’n bosib y bydd pobol fregus yn medru rhoi’r gorau i ‘hunanynysu gwarchodol’ (shielding) o fis Awst ymlaen.

Ar hyn o bryd mae unigolion â chyflyrau sydd yn eu gwneud yn agored i niwed – gan gynnwys pobol a chanser – yn cael eu cynghori i wneud ymdrech dwysach i gadw draw rhag pobol eraill.

Mae rhyw 130,000 o bobol wedi’u cynghori i wneud hynny, ond brynhawn heddiw rhodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, ddiweddariad:

“Gan fod lefel y feirws yn ein cymunedau bellach yn isel, dylem roi saib i’r hunanynysu gwarchodol (shielding) o Awst 16 ymlaen,” meddai.

“Mae hynny’n golygu bod y rheiny sydd wedi bod yn ynysu er mwyn gwarchod ei hunain yn medru aildanio bywyd dydd i ddydd, ond rhaid gwneud ymdrech arbennig i gadw pellter a golchi dwylo.

“Byddwn yn cadw hyn dan adolygiad. Ac os welwn lefelau trosglwyddo yn cynyddu, efallai bydd yn rhaid i ni ystyried gofyn i’r bobol yma gymryd camau ychwanegol i warchod eu hunain.”

Mae’r saib yn ddibynnol ar lefelau’r “feirws yn parhau i ddirywio”, yn ôl yr uwch-swyddog.

Hunan-ynysu gwarchodol

Mae’r rheiny sydd yn hunan-ynysu mewn ffordd warchodol, yn cael eu cynghori i gadw draw rhag mannau dan do sy’n llawn pobol – gan gynnwys siopau.

Ymhlith y rheiny sydd yn cael eu cynnwys yn y categori yma mae:

  • Pobl sydd wedi cael trawsblaniad organ
  • Pobl â mathau penodol o ganser
  • Pobl ag anhwylder anadlu difrifol – asthma difrifol, er enghraifft
  • Pobl â chlefyd difrifol mewn un organ
  • Menywod beichiog sydd â rhai mathau o glefyd ar y galon
  • Phlant hyd at 18 oed sydd â rhai mathau o glefyd ar y galon

Ymateb

Croesawyd y newid gan Asthma UK & British Lung Foundation Wales:

“Rydym yn falch o glywed ein bod wedi cyrraedd man lle mae Llywodraeth Cymru yn teimlo ei bod yn ddiogel [dod â hunanynysu gwarchodol i ben]. Er gwaethaf rhai anawsterau, mae wedi bod yn gynllun da sydd wedi helpu i gadw’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn ddiogel.

“Fodd bynnag, mae angen i ni fod yn ymwybodol y bydd llawer o unigolion yn dal i bryderu’n fawr am ddychwelyd i fywyd a gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, er bod y cyngor ffurfiol yn cael ei newid. Gall llawer sydd wedi bod yn cysgodi ddewis parhau i wneud hynny er eu diogelwch eu hunain, oherwydd eu risg uwch i’r coronafeirws.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cymorth ar gael i’r bobl hyn, gan gynnwys parhau i ddarparu blychau bwyd ac amddiffyniadau er mwyn atal pobl rhag gorfod dychwelyd i’r gwaith. Dim ond trwy wneud hynny y gallwn ni sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.”