Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y byddai gorfodi rheolau masnachu ôl-Brexit ar Gymru yn “hynod niweidiol.”

Daw hyn ar ôl i San Steffan gyhoeddi cynlluniau ar gyfer “marchnad fewnol” rhwng Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, ni chafodd y cynlluniau eu rhannu â Gweinidogion Cymru tan ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi.

Bydd grymoedd oedd gan yr Undeb Ewropeaidd yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig pan fydd y cyfnod trosglwyddo’n dod i ben ar Ragfyr 31.

Ddydd Iau (Gorffennaf 16) dywed Llywodraeth Cymru bod yn rhaid i’r newidiadau gael eu cymeradwyo gan yr holl weinyddiaethau datganoledig, ac nad oedd gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi cael cyfle i gynnal unrhyw drafodaethau gyda gweinidogion San Steffan.

“Rydym yn cefnogi sefydlu rheolau ar draws y Deyrnas Unedig i reoli’r farchnad fewnol, ond mae’n rhaid i bedwar Llywodraeth y Deyrnas Unedig gytuno ar y rheolau,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Yn anffodus, nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi llwyddo i rannu’r papur gyda ni, a dyw Gweinidogion Cymru heb gynnal unrhyw drafodaethau gyda gweinidogion San Steffan ar y materion hyn.

“Byddai unrhyw ymdrech i orfodi system unochrog yn hynod niweidiol.”

Ond yn ôl Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Alok Sharma, mae trafodaethau wedi cael eu cynnal ar “fframwaith gyffredin.”

Dywed fod y cynlluniau yn “barhad o beth sydd wedi digwydd am gannoedd o flynyddoedd, sef marchnad unedig di-dor.”