Mae Bro360 yn gynllun gan gwmni Golwg i greu rhwydwaith o wefannau bro. Mae’r tîm wedi cydweithio â chymunedau yn Arfon a Cheredigion i greu chwech o wefannau bro – y lle ar y We i’r lleisiau lleol. Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, yr wythnos ddiwethaf…
Nantlle Vale yn cyrraedd cynghrair newydd
Bydd Clwb Pêl-droed Nantlle Vale yn chwarae yn y drydedd haen yng Nghymru pan ddaw’r tymor newydd. Nid dyna’r unig newyddion – mae llu o chwaraewyr newydd wedi cyrraedd, ac eraill wedi gadael, yn ystod y cyfnod trosglwyddo ddiwedd tymor.
Y diweddaraf gan Begw Elain, Swyddog Cyfryngau’r Clwb, ar DyffrynNantlle360.cymru
Edrych nôl, edrych mlaen…
Mae prosiect Coetir Anian wedi cofnodi rhywogaethau fel “gwas y neidr ddeheuol ac amrywiaeth o rywogaethau adar, fel yr ehedydd, troellwr bach, boda tinwyn, y gog a’r rugiar goch” ers dechrau ar y gwaith ar safle 350 erw ym Mynyddoedd Cambria.
Mae’r cyfnod hwn yn gyfle i edrych yn ôl ar eu gweithgareddau amrywiol cyn cynllunio ymlaen i’r dyfodol.
Darllen mwy: BroAber360.cymru
Addasu er mwyn goroesi’n lleol
Ar Clonc360 gwelwch gasgliad o brofiadau personol trigolion Llanbed a’r cylch o sut maent wedi ymdopi â’r cyfnod rhyfedd yma.
“Wrth i’r sector arlwyo gau dros nos, diflannodd canran fawr o’r farchnad laeth ac o ganlyniad disgynnodd pris y llaeth. Mae’n anghredadwy bod ffermwyr yn gorfod taflu llaeth tra bod archfarchnadoedd heb gyflenwad digonol o laeth ar eu silffoedd ers misoedd.”
Darllen mwy: Clonc360.cymru
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Bu farw gweinidog Brondeifi gan Dylan Lewis ar Clonc360
- Cynlluniau am archfarchnad arall yn Llanbed gan Dylan Lewis ar Clonc360
- Grant yn rhoi hwb i ymdrechion cymunedol ym Mhenygroes ar DyffrynNantlle360